Beth yw symptomau diabetes?

Prif symptomau diabetes yw:

• Mwy o syched
• Mynd i’r ty bach o hyd (i basio dwr) - yn enwedig yn y nos
• Blinder llethol
• Colli pwysau
• Methu gweld yn glir
• Organau rhywiol yn cosi neu ysbeidiau cyson o’r llindag (thrush)
• Clwyfau’n gwella’n araf

Mae symptomau diabetes Math 1 yn amlwg iawn ac yn datblygu yn gyflym, fel arfer dros gyfnod o ychydig wythnosau.

Mae diabetes Math 2 yn datblygu’n araf, a’r symptomau fel arfer yn llai amlwg. Mae’n bosibl na fydd rhai pobl yn sylwi ar symptomau o gwbl. Efallai y bydd rhai’n credu mai symptomau heneiddio neu orweithio sydd ganddyn nhw. Mae’n hollbwysig canfod diabetes yn gynnar, felly os byddwch chi’m teimlo rhai o’r symotomau uchod, gofynnwch i’ch meddyg am brawf diabetes.

Yn y ddau fath o diabetes, mae’r symptomau yn gwella’n gyflym wedi dechrau trin y diabetes. Bydd trin diabetes yn gynnar hefyd yn lleihau’r perygl i chi ddatblygu problemau iechyd difrifol.

Print basket

Save pages and print in one go.

What is this?