Er nad yw'n bosibl cael gwared ar diabetes yn llwyr, mae modd ei drin yn effeithiol iawn.
Mae diabetes Math 1 yn cael ei drin trwy bigiadau inswlin a bwyta'n iach. Syniad da iawn hefyd yw ymarfer corff rheolaidd. Nid yw'n bosibl llyncu inswlin gan ei fod yn cael ei ddinistrio yn y stumog. Mae pobl â'r math yma o diabetes fel arfer yn chwistrellu inswlin i'w cyrff ddwywaith neu bedair gwaith y dydd. Os oes diabetes Math 1 arnoch vhi, mae rhaid gymryd pigiadau inswlin er mwyn eich cadw'n fyw ac mae'n rhaid ei wneud bob dydd.
Mae angen i bobl â diabetes Math 2 fwyta'n iach a gwneud ymarfer corff rheolaidd. Os ydych chi'n rhy drwm, bydd yn haws rheoli'ch diabetes os byddwch chi'n lleihau'ch pwysau a'u cadw'm llai wedyn.
Mae diabetes Math 2 yn cael ei drin trwy newid eich ffordd o fyw trwy fwyta'n well, colli pwysau a gwneud mwy o ymarfer corff. Efallai y bydd angen tabledi ac/neu inswlin to achieve normal blood glucose levels. Mae nifer o wahanol fathau o dabledi ar gyfer pobl â diabetes Math 2. Mae rhai mathau yn eich helpu i wneud mwy o inswlin. Mae rhai eraill yn helpu'ch corff i wneud gwell defnydd o'r inswlin sydd gennych. Mae math arall o dabled yn arafu fel y mae'r corff yn tynnu glwcos o'ch perfeddion.Bydd eich meddyg yn penderfynu pa fath o dabledi sydd orau i chi, ac efallai y bydd yn rhoi presgripsiwn i chi ar gyfer mwy nag un math. Cyflwr sy'n cynyddu dros amser yw diabetes Math 2. Os nad oedd modd rheoli eich diabetes neu newid eich ffordd o fyw a chymryd eich tabledi, efallai y bydd eich meddyg am i chi gymryd inswlin.
Sicrhau bod glwcos, pwysedd a cholesterol y gwaed mor normal â phosibl yw'r nod wrth drin y ddau fath o diabetes. Ar y cyd â byw'n iach, bydd hyn yn eich helpu i deimlo'n well a helpu atal niwed i'ch llygaid, arennau, nerfau, calon, a chylchrediad eich gwaed.