Gwireddu’r NSF yng Nghymru: Meddyliwch yn genedlaethol, ewch ati’n lleol

Wedi’i gyhoeddi yn 2003, y Fframwaith Gwasanaethau Diabetes Cenedlaethol, neu’r NSF yw cynllyn deng mlynedd y Cynulliad i wella gwasanaethau diabetes yng Nghymru. Mae’r NSF yn rhoi’r cyfrifoldeb am wella gwasanaethau ar y 222 Fwrdd Iechyd Lleol newydd yng Nghymru ar 1 Ebrill 2003. Bydd rhaid i’r Byrddau ddangos eu bod yn gweithredu’r NSF yn lleol.

Cynllun deng mlynedd yw’r NSF, on 2003 i 2013, ond mae nifer o dargedau y mae rhaid eu cyrraedd ymhell cyn hynny. Ymhlith pethau eraill, mae’r NSF wedi gofyn i’r Byrddau Iechyd Lleol sicrhau, erbyn 2004:

  • Arolwg meddygol bob blwyddyn i bawb â diabetes i ddal afiechydon sydd weithiau’n dod yn sgîl diabetes, fel clefyd y galon a chlefyd yr arennau.
  • Addysg a hyfforddiant i bobl â diabetes i’ch helpu i reoli’ch diabetes eich hunan.

ac erbyn 2005:

  • Cymorth seicolegol ar gael i bobl ifance â diabetes, i’w helpu nhw i ymdopi â byw gyda’r cyflwr.
  • Addysg barhaol am diabetes i staff gofal iechyd, fel y bydd pawb sy’n trin diabetes yn deall diabetes.

Wrth gwrs, fydd yr NSF ddim yn gwneud gwasanaethau diabetes yn berffaith dros nos. Does gan y Gwasanaeth Iechyd ddim ond rhwyfaint o staff ac arian, ac mae dan bwysau i wella llawer o wasanaethau gwahanol. Mae rhaid i ni, felly, ddadlau dros wella gwasanaethau diabetes a chadw’r NSF rhag hel llwch ar y silff. Gallwch chi helpu trwy gysylltu â’ch Bwrdd i ofyn beth maen nhw’n ei wneud am diabetes yn eich bro.  Beth am ofyn iddyn nhw beth maen nhw’n ei wneud i gyrraedd y targedi uchod? Cysylltwch â nii gael help i gysylltu â’ch Bwrdd.

Dyma ychydig o ddadleuon y gallech chi eu defnyddio dros wella gwasanaethau diabetes yn eich bro:

  •  Mae diabetes yn gyffredin. Mae tua 118,000 o bobl Cymru’n gwybod bod diabetes arnyn nhw, neu bron i bedwar ymhob cant o’r boblogaeth. Mae’n debyg bod degau o filoedd o bobl eraill yn byw gyda’r cyflwr heb ei wybod.
  • Mae diabetes ar gynnydd trwy’r byd, ac yng Ngorllewin Ewrop, ennill pwysau sy’n gyfrifol bellach am fwy na 80% o achosion o diabetes. Fel rhan o hyn, yr ydym erbyn hyn yn gweld yr achosion cyntaf o diabetes Math 2 mewn plant rhy drwm yng Nghymru, ac mae yna dystiolaeth y bydd y bobl ifanc hyn yn wynebu problemau iechyd difrifol iawn ymhen ychydig flynyddoedd.
  • Heb ei drin a’i reoli’n iawn, gall diabetes arwain at glefyd y galon, strôc, dallineb, clefyd yr arennau, a doluriau’r traed yn arwain at golli rhan o’r goes. Does ryfedd, felly, bod diabetes yn gyfrifol am 9% o gostau ysbytai Cymru, hen sôn am gostau eraill mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth iechyd a’r tu hwnt.
  • Ar y llaw arall, pan mae yn cael ei reoli’n dda, a phobl â diabetes yn cael eu cefnogi reoli’r cyflwr, mae ddigon posibl byw bywyd hir ac iach gyda fe. Trwy wario nawr ar reoli diabetes yn dda, efallai y bydd modd arbed arian yn nes ymlaen mewn meysydd eraill.

I gael copi o’r NSF, neu i gael gwybod y diweddaraf am yr NSF, Cysylltwch â ni.

 

Related information


You will need to download the free Adobe Acrobat reader to view PDF files.

 
 

Print basket

Save pages and print in one go.

What is this?