Os ydych chi’n poeni bod perygl i chi ddatblygu diabetes Math 2, mae sioen pen-ffordd Diabetes UK yn cynnig cyfle i chi gael gwybod a oes angen i chi fynd at eich meddyg am brawf gwaed.
Bydd yr aseswr yn gofyn nifer o gwestiynau i chi (mewn ystafell breifat) ar sail y ffactorau risg ar gyfer diabetes Math 2. Bydd cwestiynau am eich oedran, ymarfer corff, faint o ffrwythau a llysiau rydych chi’n eu bwyta, pwysau gwaed, glwcos y gwaed, ac unrhyw hanes o diabetes yn eich teulu. Byddwn ni hefyd yn mesur eich taldra, eich pwysau, a maint eich canol.
Ar sail yr atebion i’r holiadur, gallwn ni roi sgôr risg i chi: isel, wedi codi ychydig, canolig, uchel neu uchel iawn. Os yw’ch risg yn ganolig, uchel neu uchel iawn, fe gewch lythyr yn esbonio hyn, i chi ei roi i’ch meddyg, a byddwn ni’n eich cynghori i drefnu apwyntiad i gael pawf gwaed (os bydd angen un). Gall Diabetes UK ddanfon y llythyr hwn at eich meddyg os oes gennych ei fanylion cyswllt.
Cewch wybodaeth am y ffactorau risg ar gyfer diabetes Math 2 a chyngor am sut i leihau’r risg i chi. Bydd gwybodaeth brint i chi fynd â hi gyda chi am fwyta’n iach, colli pwysau ac ymarfer corff.
Os ydych chi’n feichiog neu dan 18 oed, ni ddylech chi gael asesiad risg, ond dylech chi drafod hyn gyda’ch tîm gofal iechyd eich hunan. Gallwch chi gael eich asesu 6 wythnos neu ragor wedi geni’ch babi.