Amdanon ni

Mae gan Diabetes UK Cymru dîm brwdfrydig o staff a gwirfoddolwyr sy’n gwneud ein gwaith yng Nghymru. Dyma fanylion y staff sydd yma i’ch helpu chi.

 

Dai Williams – Cyfarwyddwr Cenedlaethol

Cafodd Dai ei eni a’i fagu ym Merthyr Tudful a hyfforddodd fel biocemegydd, ond buodd e’n gweithio am nifer o flynyddoedd gyda’r BBC yn Llundain a Chaerdydd, gan gynnwys ym maes addysg a hyrwyddo iechyd. Bellach mae e’n arwain gwaith Diabetes UK yng Nghymru. Mae diabetes ar ei wraig a’i fab.

Ellen Blanks – Hwylusydd Datblygu Gwirfoddolwyr

Daeth Ellen i Diabetes UK Cymru ar ôl bod yn gweithio i un o’r prif fanciau am 15 mlynedd. Mae hi’n gweithio i gefnogi ein gwirfoddolwyr a’n Grwpiau Gwirfoddol, y mae Diabetes UK yn dibynnu cymaint arnyn nhw. Mae hi’n disgrifio gweithio i Diabetes UK fel "y swydd brafiaf fuodd gen i erioed." Cysylltwch ag Ellen am gyngor ar sut i wirfoddoli dros Diabetes UK neu am help i sefydlu grŵp cefnogi diabetes yn eich ardal.

Jane Clark – Gweinyddwr Prosiect Gofal

Ymunodd Jane â Diabetes UK Cymru ym mis Mehefin 2009. Cafodd ei hyfforddi fel gwyddonydd bwyd, ac mae Jane hefyd ar hyn o bryd yn rhedeg ei busnes ei hun yn gweithio’n rhan amser fel ymgynghorydd ymchwil. Mae swydd Jane yn Diabetes UK Cymru yn ei galluogi i ddefnyddio ei phrofiad busnes a gweinyddol, gan helpu pobl sydd â Diabetes ar lefel leol ac ym mhob cwr o Gymru.

Mae Jane hefyd yn gyfrifol am helpu’r Cynghorydd Gofal gyda’r gweinyddu o ddydd i ddydd a helpu wrth gynllunio a threfnu digwyddiadau a chyfarfodydd. Ei rôl hefyd yw cryfhau a datblygu cysylltiadau â grwpiau clinigol, gwirfoddol a chleifion/rhieni lleol.

Joseph Cuff – Rheolwr Codi Arian Cenedlaethol

Joseph yw ein Rheolwr Codi Arian diflino. Gyda’i dîm o wirfoddolwyr ymroddedig, mae e’n gweithio i sicrhau bod gwaith Diabetes UK yng Nghymru’n cael yr arian sydd ei angen arno i barhau. Mae ein tîm codi arian yn cynllunio rhaglen ddigwyddiadau gyffrous gydol y flwyddyn, o deithiau cerdded a rasys i giniawau ffurfiol a nosweithiau dirgelwch llofruddiaeth. Hefyd, gallan nhw gynnig help i roi eich syniadau chi ar waith.

Jason Harding – Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus

Mae Jason wedi bod yn gweithio i Diabetes UK Cymru ers diwedd 2009 ac mae ganddo lawer o brofiad o ymgyrchoedd a gwaith polisi i elusennau iechyd a phlant. Bydd e’n gweithio’n galed i sicrhau bod gwleidyddion, ymarferwyr iechyd proffesiynol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru’n hollol eglur o ran beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i sicrhau bod pobl sydd â diabetes, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw’n ei haeddu.

Mary Nicholls – Swyddog Cymorth Cenedlaethol

Roedd Mary’n hen gyfarwydd â diabetes cyn iddi ddod i weithio i Diabetes UK Cymru gan fod ganddi nifer o ffrindiau a oedd yn byw gyda diabetes a’i gymhlethdodau. Roedd hi hefyd bob amser wedi eisiau gweithio dros elusen.  Mae Mary’n gyfrifol am lawer o’r gwaith gweinyddol a rheoli ariannol yn y swyddfa, a hi hefyd sy’n trefnu nifer o’n cynadleddau a’n cyfarfodydd.

Kerry-Lynne Pyke – Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu

Ymunodd Kerry-Lynne â Diabetes UK Cymru yn 2009 ar ôl bod yn gweithio fel newyddiadurwraig cyn hynny. Mae hi’n cydlynu sylw’r cyfryngau i Diabetes UK Cymru drwy ysgrifennu datganiadau i’r wasg ac i gyhoeddiadau Diabetes UK, y wefan, grŵp Facebook a chyfrif Twitter yr elusen. Mae hi hefyd yn cynrychioli’r elusen drwy wneud cyfweliadau ar y radio a’r teledu. Cysylltwch â Kerry-Lynne am wybodaeth sy’n gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth am ddiabetes yn y cyfryngau.

Karen Rossi – Cynorthwyydd Codi Arian

Gweithiodd Karen i Diabetes UK Cymru fel gwirfoddolwr am ddwy flynedd cyn dod yn aelod o dîm Cymru yn 2008. Mae hi’n cefnogi Joseph Cuff ym mhob digwyddiad codi arian ledled Cymru. Mae Karen hefyd yn weithgar adeg diwrnodau cefnogi rhieni/plant ac mae ganddi ferch sydd â diabetes Math 1 ers 2001.

Sue Thomas – Cynorthwyydd Codi Arian

Mae Sue wedi bod yn gweithio i Diabetes UK Cymru am yn agos i ddeng mlynedd. Mae hi’n sicrhau bod ein digwyddiadau codi arian yn rhedeg yn dda, ac mae hi’n cadw ein cyflenwad o wybodaeth am ddiabetes yn gyfredol.