Blog Hannah

Os hoffech chi roi sylwadau ar fy mlog neu gysylltu â mi, e-bostiwch: wales@diabetes.org.uk.

Blog #13 3 Ebrill 2013

Os dych chi’n meddwl eich bod chi’n cael diwrnod gwael....

Dwi’n anghofio fy stripiau profi, yr inswlin, y pethau i drin hypo... y cyfan. Mae gwneud yn siŵr fy mod i’n cofio popeth yn anodd, ddydd ar ôl dydd. Pan fydda’ i’n anghofio pethau, dyna pryd mae pethau’n mynd o’i le. Does dim eisiau’r pethau dwi’n eu cofio arna i hyd yn oed. Mae adegau pan nad ydw i’n gallu trafferthu profi. Mae rhywbeth arall yn digwydd, mae diabetes yn boendod.

Beth sy’n gwneud i bopeth fod yn waeth yw bod fy ffrindiau ysgol yn meddwl ei bod hi’n cŵl fy mod i’n cael bwyta yn y dosbarth – mewn gwirionedd mae’n boendod gorfod bwyta pan na fydd eisiau bwyd arnoch chi hyd yn oed. Dydyn nhw ddim yn deall pa mor anodd mae’n gallu bod. Maen nhw’n meddwl ei bod hi’n ddoniol pan fydd fy ngwaed yn isel a dwi’n siarad dwli.  

Ond dwi ddim yn hoffi gorfod byw oddi ar beiriannau a rhifau. Gan deimlo a gwybod y gallai’r gwaethaf ddigwydd. Dim ond breuddwydio am ddyfodol heb ddiabetes gallaf i ei wneud. Dim ond wedyn y bydda’ i’n gollwng gafael ar y peth sy’n fy mhoeni fwyaf: ‘Fydda’ i’n deffro?’

 

Blog #12 31 Ionawr 2013

Obsesiwn peryglus

 

 Roedd gan ffrind i mi sydd â diabetes Math 1 obsesiwn am ei phwysau. Byddai’n gwneud heb brydau bwyd a fyddai hi ddim yn bwyta am ddiwrnodau. Mae hi’n dweud nad yw ei hobsesiwn byth yn ei gadael ac oherwydd bod diabetes arni, mae’r demtasiwn yno o hyd i beidio â chymryd inswlin er mwyn colli pwysau.

 Mae’n union fel llwgu, ond dyw e ddim yn gweithio achos, fel gwelodd hi, ry’ch chi’n adennill pwysau. Doedd gan ei mam ddim syniad o gwbl beth oedd yn digwydd a does ganddi ddim syniad o hyd. Bu bron i fy ffrind farw wrth dorri ei dos inswlin. Yn y diwedd roedd rhaid iddi fynd i Uned Dibyniaeth Uchel ar IV a monitorau’r galon a buodd hi yn yr ysbyty am wythnos.

Pan oedd hi ar y ward gyffredinol, cafodd ei chyhuddo o ‘diabulimia’ a buodd pobl yn gweiddi arni, ond gwadu wnaeth hi – ond doedd hi ddim yn sylweddoli pa mor ddifrifol oedd e. Doedd ganddi ddim syniad ble i fynd i gael help felly chafodd hi ddim help a ddywedodd hi ddim o’r gwir am y peth wrth neb. Anhwylder bwyta yw diabulimia lle mae pobl sydd â diabetes Math 1 yn rhoi llai o inswlin nag sydd ei angen iddyn nhw’u hunain yn fwriadol, er mwyn colli pwysau.

 Mae’n rhywbeth cyfrinachol iawn gyda chanlyniadau brawychus ac mae’n anodd ei adnabod, hyd yn oed os ydych chi’n gyfarwydd iawn â’r person. Mae diabulimia’n dechrau fel arfer achos bod pobl yn credu bod inswlin yn gwneud i chi fagu pwysau. Heb inswlin, does dim egni gyda chi, felly mae hi’n anodd i chi gadw i fynd drwy’r dydd. Mae pobl yn bwriadu ei wneud am ychydig ddyddiau’n unig ac yna mae’r peth yn gallu gafael ynoch chi a pharhau am wythnosau neu fisoedd hyd yn oed.

Gan eu bod nhw’n cael eu denu gan y syniad o golli pwysau, dyw’r rhai sy’n dioddef o diabulimia ddim yn sylweddoli pa mor beryglus gall hyn fod iddyn nhw. Am ragor o wybodaeth ac i gael gwybod ble gallwch chi gael help, ewch i wefan hwn.

   

Blog #11 16 Tachwedd 2012

Y system imiwnedd. pancreas. wedi’i ddinistrio ydw i.

Diagnosis. gwadu. deall ydw i.

Addysg. dysgu. amgyffred ydw i.

Carbohydradau. wedi’u cyfrif. wedi’u gwrthweithio ydw i.

Inswlin. pigiadau. pwmp ydw i.

Newid llinell. swigod. rhwystredigaeth ydw i.

Pibenni. gludiog. poenus ydw i.

50 stribed prawf. cyllell meddyg newydd. pigo bysedd ydw i.

Hypo. losin. llif o siwgr ydw i

O fewn cyrraedd. sgrech o lawenydd. gwych ydw i.

Hyper. syched eithafol. cetonau ydw i.

D.k.a. sy’n bygwth bywyd. cymhleth ydw i.

Math 1. gydol oes. na ellir ei osgoi ydw i.

Y gwellhad. filltiroedd i ffwrdd. heb eich help ydw i.

Tawelwch. 10 awr. wedi’i noddi ydw i.

Gofyn yn gwrtais am roddion rydw i.

Diwrnod diabetes y byd ydw i.

£300, wedi’i gasglu a’i gyfrif ydw i.

Blog #10 23 Awst 2012

Ers y diwrnod i mi droi'n ddeg oed, roedd fy mywyd fel petai wedi newid er gwaeth

.

 Roeddwn yn egluro'n gyson wrth bobl beth y gallwn ei fwyta a beth na allwn ei fwyta oherwydd y diabetes a'r clefyd coeliag. Fe es i gyfarfod â deietegydd hyd yn oed, a awgrymodd ddewisiadau bwyd amgen, ond roedd yn rhaid i mi ddweud wrthi nad oeddwn yn gallu eu bwyta.

 Mae gen i hyperthyroidedd hefyd, a 'dyw byw gyda thri chyflwr awto-imiwn ddim yn hawdd, ond roedd cael gwybod am gyfuniad o'r tri chyflwr mewn cyfnod mor fyr o amser yn llethol.

 Mae pobl bob amser yn synnu na chefais fy ngeni â diabetes, ac am nad ydw i'n dew, maen nhw'n gofyn 'pam?' Gallaf egluro beth ddigwyddodd y tu mewn i mi, ond does gen i hyd yn oed ddim syniad pam.

 Rwyf wedi cael diabetes Math 1 ers bron i bum mlynedd bellach, ac mae'n dal i deimlo fel nad ydw i'n gwybod dim amdano.  Wel, rwy'n gwybod llawer mewn gwirionedd, ac wedi dysgu llawer, ond mae diabetes yn gyflwr na fyddwch byth yn stopio dysgu amdano.

 

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn tybio fy mod i'n iawn gan fy mod yn gwybod yn union beth i'w wneud. Peidiwch â chamddeall, rwy'n trio fy ngorau ond mae pob diwrnod yn brofiad dysgu o roi cynnig ar bethau a gobeithio am y gorau!

 Rhywbeth sydd wedi fy synnu am fyw â diabetes ydy bod pob person sydd â diabetes Math 1 rwyf wedi ei gyfarfod yn anhygoel, pob un ohonynt.

 

Rwyf wedi gwirfoddoli mewn digwyddiadau Diabetes UK ac wedi sylweddoli y gallwch ddysgu gan unrhyw un, ni waeth pa mor hen neu ifanc. Mewn un digwyddiad dywedodd bachgen bach chwech oed: "Dwi'n meddwl y bydd yn anodd pan fyddaf yn hŷn, oherwydd bydd rhaid i mi ei wneud i gyd fy hun heb help Mami a Dadi". Ni fyddech yn disgwyl i blentyn chwech oed feddwl am bethau fel hyn.

 Pan newidiais o gael pedwar pigiad dyddiol i gael pwmp inswlin, cefais lawer mwy o gyfrifoldebau, er enghraifft, newid fy inswlin

 

Nawr, rwy'n meddwl llawer mwy am y dyfodol ac ni fyddwn byth yn gadael i ddiabetes fy atal rhag gwneud unrhyw beth. Gallaf ddod o hyd i ffyrdd o weithio o amgylch fy nghyflyrau amrywiol bob amser.

 

Blog #9 Awst 2012

Deuthum i sylweddoli y byddai gennyf ddiabetes Math 1 am oes ar ôl rhyw flwyddyn neu ddwy.

 Mae pobl yn dweud wrthyf fy mod yn ddewr ac na fydden nhw byth yn gallu gwneud yr holl brofion siwgr yn y gwaed a'r holl bigiadau, ond fe fydden nhw'n gwneud petai'n wirioneddol rhaid iddynt. Mae pobl yn dweud wrthym eu bod yn deall, ond dim ond pobl eraill â diabetes Math 1 sydd wir yn deall.

 Cefais wybod na fyddai'r pigiadau yn gadael gormod o greithiau. Dros y blynyddoedd, wrth i'r creithiau a'r cleisiau waethygu, collais fy hyder ac er nad oedd unrhyw un byth yn cyfeirio atynt, a fwy na thebyg na wnaethant sylwi hyd yn oed, roeddwn yn teimlo fel petai pawb yn syllu arnynt.

 Gwn o brofiad personol nad yw diabetes yn hawdd ymdrin ag ef na'i reoli ac y gall achosi llawer o straen. Teimlaf fod llawer o bwysau arnaf o ran dewisiadau beunyddiol a gwn fod angen bod yn gryf i ymdopi â'r gofynion o ran inswlin, meddyginiaeth a phrofi'r gwaed bob dydd er mwyn cadw lefelau glwcos mor normal â phosibl.

 Weithiau mae'n anodd, ac rydych yn eistedd ac yn meddwl, pam fi? Ac rydych am gael byw eich bywyd yn yr un ffordd â'ch ffrindiau. Gall fod yn anodd derbyn bod eich system imiwnedd wedi troi arnoch gan ddinistrio'r holl gelloedd sy'n cynhyrchu inswlin yn eich pancreas heb fod unrhyw fai arnoch chi eich hun am hynny. 

Ond, gan amlaf, mae byw â diabetes yn iawn. Rydych yn dod i arfer ag ef ac am ei fod yn rhan ohonoch, dylech ei barchu!  Wrth gwrs, byddwn yn croesawu gwellhad, ond y flaenoriaeth yw gofal a thriniaeth dda, gan ei gwneud hi'n haws byw â diabetes o ddydd i ddydd.

 Mae'n rhaid parhau i fyw bywyd ac os na fydd yr hyn a gyfrannaf at ymchwil diabetes yn fy helpu i'n uniongyrchol, gobeithio y bydd yn arwain at well safon gofal i bobl sydd newydd gael diagnosis, gan fod diabetes Math 1 yn gyflwr a all fod yn angheuol ac ni fyddwn am i unrhyw un orfod teithio taith diabetes.

 Rwyf yn llawer cryfach nag oeddwn yn ei feddwl erioed ac rwyf wedi dysgu fwy na thebyg fy mod yn gwybod mwy am sut i reoli fy niabetes na'r meddygon neu'r nyrsys. Drwy wybodaeth a phrofiad, mae'n gwella. 

Ni fydd fy mywyd byth fel ag yr oedd cyn cael y diagnosis. Roeddwn yn ei gasáu, rwyf wedi ei wynebu ac nawr rwyf yn falch fy mod yn berson Math 1!

 Blog #8 Gorffenhaf 2012

O y pleser a gewch o gael Diabetes Math 1 yn eich arddegau!

Mae cael Diabetes Math 1 yn eich arddegau yn hollol anghyfleus!

Dydi diabetes byth yn cael diwrnod i ffwrdd, hyd yn oed os bydd gennych arholiadau neu os bydd rhywbeth arbennig yn digwydd i chi. Does dim gwahaniaeth pa adeg o'r dydd yw hi, os ydych yn cael 'hypo' rhaid ei drin yn syth, p'un a ydych yn sâl neu ei bod hi'n ganol nos, neu'r peth cyntaf yn y bore.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl na fyddai rhywun yn ei arddegau yn gwrthod losin, ond pan mae'r eisiau yn troi'n angen, nid ydynt yn bleserus. Rydych yn crefu am bethau melys roeddech yn arfer eu hoffi fel plentyn nad ydych wedi eu cael ers oesoedd, ond yn sydyn rydych yn eu casáu nhw nawr am nad ydych yn gallu stumogi'r siwgr.

Weithiau mae'n teimlo fel petai eich corff yn brwydro yn eich erbyn, hyd yn oed os rydych yn gwneud popeth yn iawn, bron fel petai'n casau ei hun. 

Gall pobl fod yn anwybodus ac yn anghwrtais a dweud pethau gwirion oherwydd eu diffyg gwybodaeth am wahanol fathau o ddiabetes: "Mae fy Nhaid yn ddiabetig, 'dych chi'n cael tabledi dydych?" Mae tybiaethau bach gwirion pobl yn achosi i chi dorri i lawr a chrio. Mae pobl eraill yn meddwl eich bod yn ddifrifol wael ac angen help neu nid ydynt yn deall diabetes o gwbl gan ei fod yn gyflwr anweledig. 

Rydych yn ceisio chwerthin ar y sylwadau gwirion, anaeddfed ond y tu mewn, mae'n brifo. Does dim syniad gan bobl pa mor anodd ydyw i fyw â'r cyflwr hwn am oes. Mae athrawon gwyddoniaeth yn dweud popeth yn anghywir ac rydych eisiau eu cywiro ond nid ydych yn teimlo'n ddigon cryf i wneud hynny.

Rhaid i chi gofio mesur lefel y siwgr yn eich gwaed hyd yn oed pan rydych yn chwerthin a chael hwyl gyda'ch ffrindiau, ac yna ei chofnodi mewn llyfr neu ei lawrlwytho ar y cyfrifiadur pan rydych yn boddi mewn gwaith ysgol.

Mae stribedi profi lefelau glwcos yn y gwaed yn magu coesau ac yn cerdded drwy eich bagiau a'ch t?. Rydych yn dod mor gyfarwydd â gwisgo setiau trwytho fel eich bod yn rhoi un newydd i mewn ac yn anghofio tynnu'r hen un allan! Neu rydych yn anghofio eich bod wedi chwistrellu ac yn gwneud eto ar ddamwain. Mae'n anodd dod o hyd i fan chwistrellu/trwytho nad yw'n brifo neu'n cynnwys lympiau mwyach.  Nid yw'r creithiau meddyliol na'r creithiau corfforol yn diflannu. 

Weithiau rydych yn dechrau beichio crio gan eich bod wedi cael digon ar y trafferthion sy'n gysylltiedig â diabetes; rydych am i'ch bywyd fod yn normal eto - rydych am fod fel pawb arall.
 

 

Blog #7 Dydd Sadwrn 26 Mai

Roedd yr haul yn disgleirio, roedd fy ngwaed yn berffaith a phopeth yn ymddangos yn wych, ac i goroni’r cyfan, dyma’r diwrnod y cariais i’r Ffagl Olympaidd! Cefais fy enwebu gan fy nghlwb ieuenctid oherwydd fy ymdrechion gwirfoddol, fy agwedd gadarnhaol a’m gwaith elusennol. Nid dim ond diabetes Math 1 sydd arna’ i, dwi hefyd yn dioddef o glefyd coeliag ac mae gen i thyroid nad yw’n ddigon gweithredol. Ond er gwaetha’r problemau meddygol hyn, dwi’n bwrw ymlaen â ’mywyd heb adael i ddim byd fy rhwystro.

Cefais frecwast arbennig – brecwast heb glwten o McDonalds! Ches i ddim cinio – roedd y cyffro a’r nerfau’n dechrau cynyddu. Redais i ddim tan 4.30pm ac roedd fy ngwaed yn berffaith;  roedd popeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir! Es i ddathliad gyda’r nos, gadael fy metr yn y car (ro’n i’n ddrwg, dwi’n gwybod) bwyta hufen iâ ac er nad o’n i wedi cael dos o inswlin ers 10a.m. ro’n i’n teimlo’n iawn.

Edrychais i weld sut roedd fy siwgr gwaed am 1p.m., ond allwn i ddim mynd â fy nghit profi gyda fi oherwydd y ffordd roedd y Bysys Olympaidd wedi’u trefnu.

Dyna ddiwrnod mwyaf anhygoel fy mywyd, anghofia i fyth mohono fe. Dydd Sadwrn 26 Mai – roedd diabetes yn fy ngharu a rhoddais ddiolch i’r pwmp.

 

Blog#6 5 Mawrth 2012

Yn y blogiau blaenorol fe soniais i am sut roedd y caniwla cyntaf wedi gadael marc mwy nag o’r blaen pan dynnais i fe allan ar ôl i’r inswlin fod yn rhedeg drwyddo.

Wel, digwyddodd ffrind i’r teulu sy’n nyrs pediatrig fod o gwmpas pan oeddwn i’n newid y caniwla.

Meddai hi: “Ddywedon nhw ddim wrthot ti am bwyso ychydig arno fe?” Ers hynny dwi wedi dilyn ei chyngor hi ac wrth dynnu’r caniwla allan dwi’n gwasgu fy mysedd i lawr dros y rhan lle mae’r caniwla wedi torri’r croen. Felly mae llai o greithio a dim ond smotyn bach sydd i’w weld.

Dim ond tair wythnos sydd ers i mi fod yn defnyddio’r pwmp, a dwi’n dwlu arno fe! Mae’n teimlo’n rhyfedd iawn achos bod dim angen cael pigiad ac mae’n wych gallu byw’n gymharol normal. Mae’n anhygoel achos rwyt ti’n gallu byw fel rwyt ti eisiau, heb ddilyn amserlen o brydau bach a mawr, a phigiadau! Gyda’r pwmp inswlin dwi’n gallu bod yn fwy hyblyg gyda bwyd, dim ond i mi ei ddefnyddio’n gywir.

Blog #5 24 Chwefror 2012

Ddoe, ar ôl newid y caniwla, roedd popeth yn iawn ac roedd y pwmp ym mhoced fy hwdi. Wrth i mi blygu i godi rhywbeth o’r llawr, cwympodd y pwmp allan o ’mhoced ac wrth iddo syrthio i’r llawr, rhwygodd y caniwla allan o’m bol i.

Er bod hyn yn swnio’n boenus, mae’n bleser dweud na theimlais i ddim byd! Dyw fy siwgr gwaed i ddim mewn ffigurau dwbl nawr, ond dwi wedi gweld bod yr hypoglycaemia wedi codi’n ddiweddar. Ers mynd ar y pwmp, mae fy nhriniaeth hypo wedi newid. Nawr dw i’n trin fy hypo gyda 15g o garbohydradau ac yna’n profi eto mewn 15 munud, ac ailadrodd os oes angen. I ddechrau, do’n i ddim yn meddwl y byddai’r dull hwn yn gweithio achos doedd e ddim yn edrych fel llawer o garbohydradau i gael fy ngwaed ’nôl i fod yn normal os oedd fy siwgr gwaed tua 2.5. Ond mae’r dull hwn yn gweithio i mi.

Mae meddwl am gael rhywbeth gyda chi fwy neu lai 24/7 yn gallu gwneud i chi ddigalonni ac efallai y bydd yn rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r dillad ry’ch chi’n eu gwisgo. Ond dyw e ddim yn rheoli’r dillad ry’ch chi eu dewis. Yr unig anfanteision yw dillad tyn ac efallai ‘crop tops’. Does dim byd yn amhosib ac ry’ch chi’n gallu meddwl am ffordd o ddatrys y broblem. Dwi wedi gwnïo pocedi yn fy ‘onesie’ – felly mae gwisgo’r pwmp adeg gwely’n llawer mwy cyfforddus.

Dw i i fod i fynd ’nôl i gael fy HBA1C wedi’i brofi eto mewn mis, felly wedyn bydda i’n gallu cymharu’r ffordd y mae fy ngofal diabetes wedi newid, er gwell neu er gwaeth.

Blog#4  20 Chwefror 2012

Mae 4 diwrnod ers i mi ddechrau defnyddio fy mhwmp inswlin.

Maen nhw wedi bod yn 4 diwrnod cyffrous, llawn her, a blinedig hefyd, yn sicr. Mae’n anhygoel peidio â gorfod cael 4 pigiad y dydd, bob dydd.

Dw i’n teimlo’n hyderus iawn gyda’r pwmp a dw i mor hapus bod dim rhaid i mi gael pigiadau. Ond pan dynnais i’r caniwla cyntaf allan ar ôl i’r inswlin fod yn rhedeg drwyddo, fe adawodd e farc mwy nag o’r blaen. Gobeithio y bydd e’n mynd yn llai amlwg ac yn diflannu yn y pen draw.

Mae blogiau eraill dw i wedi’u darllen a’r bobl dw i wedi siarad â nhw am bympiau

yn sôn am yr holl bethau ychwanegol y mae’n rhaid i ti eu cario o gwmpas gyda ti. Ond os oeddet ti wedi bod yn cyfrif y carbohydradau cyn newid i gael pwmp, alla’ i ddim gweld bod eisiau mynd â phethau gwahanol gyda ti.

Hyd yn hyn dw i’n dwlu ar fy mhwmp inswlin achos does dim angen i neb wybod amdano fe. Does dim angen ei dynnu allan. Dyw e ddim yn broblem i mi os yw pobl yn gofyn cwestiynau ac ati ond mae’n wych peidio â chael pobl yn syllu arnat ti pan fyddi di allan ac yn gorfod cael pigiad.

Dw i’n teimlo bod pobl yn fy ngweld i go iawn, nid ‘Hanna sydd â diabetes arni’.  

 Blog # 3 15 Chwefror 2012

Emosiynau cymysg a diffyg cwsg oherwydd y cyffro. R'odd cymysgedd o hapusrwydd, ofn, nerfusrwydd a phryder wedi gwneud i mi godi'n gynnar iawn. O'r diwedd ro'n i am ddefnyddio pwmp inswlin!

Esboniodd rhywun i mi sut mae'r pwmp yn gweithio, a'r un sydd gen i ydy'r Accu-Check Combo sy'n cael ei reoli gan fesurydd glwcos yn y gwaed. R'ych chi'n mesur lefelau'r siwgr yn eich gwaed ac yna'n nodi faint o garbohydradau r'ych chi'n eu bwyta a'r ymarfer corff r'ych chi'n ei wneud. Drwy ddewis 'confirm' ac yna 'deliver' mae'r pwmp yn rhoi'r inswlin sydd ei angen arna i i gywiro lefelau'r siwgr yn fy ngwaed a gwrthbwyso'r bwyd.

Dwi'n gallu cywiro lefelau'r siwgr yn fy ngwaed drwy bwyso ychydig fotymau, sy'n golygu mod i ddim yn gaeth i amserlenni dosio tynn.  Mae peidio â rhoi pigiadau yn wych ond mae hefyd wedi bod yn eitha rhyfedd ac am yr ychydig ddiwrnodau cyntaf r'odd e'n od, ar ôl pedair blynedd, beidio â gorfod pigo fy hun - r'odd e'n teimlo mod i'n colli rhywbeth!

Dwi wedi bod yn profi lefelau'r siwgr yn fy ngwaed rhwng 6 ac 8 gwaith y dydd sy'n amlach nag y bues i erioed yn y gorffennol. Ond mae'n angenrheidiol gwneud hyn i gadw llygad ar lefelau siwgr yn y gwaed ar sail eich dosys, y bwyd r'ych chi'n ei fwyta a faint ohono r'ych chi'n ei gael.

Mae hefyd yn hanfodol profi lefelau siwgr yn aml gan mai dim ond inswlin sy'n gweithio'n gyflym mae'r pwmp inswlin yn ei roi i chi felly does dim inswlin sy'n gweithio am fwy o amser wrth gefn yn eich system. Os na chewch chi ddigon o inswlin o'ch pwmp inswlin, gall lefelau'r siwgr yn eich gwaed godi'n beryglus o uchel mewn dim o amser, felly mae angen i chi wybod beth sy'n mynd ymlaen a thrin lefelau uchel o siwgr yn y gwaed yn gyflym. 

Blog #2 13 Chwefror 2012 

Fe wnes i gwrdd â chynrychiolydd pympiau Roche ddydd Mercher. Fe roddodd fy mhwmp i fi ac esboniodd y gwahanol setiau trwythiad i fynd gyda'm pwmp.

Ro'n i'n poeni am roi set y trwythiad i mewn. Tawelodd hi fy meddwl a rhoddais i un i mewn tra mod i yn yr ysbyty gan ei gadw fe mewn am ychydig ddiwrnodau heb gysylltu'r pwmp. Ar y dechrau, ro'n i'n gwybod ei fod e yna ond anghofies i'n llwyr ar ôl rhyw 10 munud. Roedd angen i mi ei newid dros y penwythnos. Do'n i ddim yn poeni o gwbl am wneud hyn achos do'n i ddim yn disgwyl cael cyn lleied o boen pan roddais i e mewn yn yr ysbyty.
Yna sylweddolais i fod yn rhaid i mi dynnu'r canwla allan a gwnes i fynd i banig braidd... mae'n haws rhoi canwla i mewn na'i dynnu allan mae'n rhaid cyfaddef! Ond, roedd hyn ddim ond am fod plastr hynod ludiog yn dal y canwla yn ei le. Ond, fe ddaw hyn yn haws wrth i fi fagu profiad a bod yn ddewr.
Dw i'n meddwl hefyd ei bod hi'n bwysig dweud y dylech gymryd pob dim fel y daw. Cymerwch un peth ar y tro a byddwch chi'n iawn.

Yn gyntaf, ro'n i'n poeni am roi canwla i mewn, ond gwnes i hynny'n ddidrafferth. Yna ro'n i'n poeni am ei dynnu allan, ond doedd e ddim mor ddrwg â'r disgwyl. Ro'n i'n credu y byddai'n gadael fy nghroen mewn cyflwr gwael ac y byddai gwaed ym mhob man. Ddim y fath beth! Byddwn i'n cynghori pawb sydd am ddefnyddio pwmp inswlin i geisio peidio â chynhyrfu a phoeni'n ormodol cyn rhoi cynnig arni, achos byddwch chi'n poeni'n ddiangen, fwy na thebyg.

Blog #1 Chwefror 10 2012 

Helô, Hannah dwi.

Dwi’n 14 oed ac mae diabetes math 1 wedi bod arna i ers 4 blynedd. Roedd hi’n anodd derbyn y diagnosis ar y dechrau ond ar ôl blwyddyn sylweddolais i fy mod i’n gallu rheoli’r diabetes heb iddo fy rheoli i os oeddwn i’n derbyn y peth ac yn gofalu am fy hunan.

 Er bod y lefelau siwgr gwaed wedi bod yn weddol dderbyniol, mae pwmp inswlin wedi apelio ataf bob amser. Y peth cyntaf dynnodd fy sylw oedd pa mor hyblyg yw’r pwmp, achos mae’n gallu rhoi inswlin yn ôl sut mae rhywun yn byw ei fywyd.

Dwi’n mynd i fod yn blogio am fy nhaith wrth imi newid o 4 pigiad y dydd i bwmp inswlin.


Print basket

Save pages and print in one go.

What is this?