Yn Diabetes UK Cymru rydym yn cynnig cefnogaeth i bawb y mae diabetes wedi effeithio arnyn nhw, boed yn sgil diagnosis diweddar i chi neu rywun rydych yn ei adnabod, neu os ydych wedi bod yn byw â diabetes Math 1 neu Fath 2 ers tro, neu os ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Dyma rai o'r ffyrdd y gallwn helpu:
Gwybodaeth
Yn ogystal â llawer o wybodaeth wych ar ein gwefan, mae gennym ganllawiau ar fyw â diabetes a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Os ydych am i ni anfon y rhain atoch, rhowch wybod i ni trwy ffonio 029 2066 8276 neu e-bostio wales@diabetes.org.uk.
Siarad â rhywun
Gallwch ffonio ein gwasanaeth Llinell Ofalam gyngor a chefnogaeth gan ein cwnsleriaid hyfforddedig trwy ffonio 0345 123 2399. Mae'r gwasanaeth ar gael rhwng 9am a 7pm ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os ydych yn dymuno siarad â rhywun sydd â diabetes mae gennym wirfoddolwyr hyfforddedig sy'n siarad Cymraeg a Saesneg â phrofiad personol o ddiabetes. Mae ein gwasanaeth cynnal cyfoedion i bawb sy'n byw â diabetes yng Nghymru, gan gynnwys rhieni plant â diabetes. Gallwch gysylltu trwy ffonio 0843 353 8600 neu trwy fynd iwww.diabetes.org.uk/peer-support.
Ymuno â Grŵp Lleol
Mae gennym ystod o grwpiau oedolion ledled Cymru sy'n rhoi cefnogaeth wyneb yn wyneb i unrhyw un sy'n byw â diabetes, trafodaethau gwybodus a chyflwyniadau llafar gan arbenigwyr. Mae grwpiau teulu gennym hefyd lle mae rhieni a phlant yn cwrdd i roi cefnogaeth i'w gilydd a chael hwyl.
Ewch i'n tudalen Grwpiau Lleol i ddod o hyd i'ch grŵp agosaf.
Gwasanaeth Eirioli
Os ydych yn cael anhawster wrth ddatrys mater penodol o ran eich diabetes, efallai y byddwn yn gallu helpu. Cysylltwch â wales@diabetes.org.uk
Digwyddiadau
Edrychwch yn rheolaidd ar y tudalennau Digwyddiadau ar wefan Diabetes UK Cymru i weld a oes digwyddiadau gofalu ar y gweill yn eich ardal.