Codi Arian
Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi ein helpu ni i godi arian ac ymwybyddiaeth hanfodol, fel y gallwn ni wella bywydau pobl sydd â diabetes a gweithio tuag at ddyfodol heb diabetes.
Digwyddiadau ac awgrymiadau
Yn yr adran hon fe gewch chi lawer o wybodaeth am sut i gefnogi Diabetes UK, awgrymiadau am godi arian, a rhestri o’n holl ddigwyddiadau codi arian.
Felly, ymunwch â ni i gael hwyl a phob lwc gyda’ch holl weithgareddau.
Diolch am gefnogi Diabetes UK Cymru.
Mae pob cyfraniad yn cyfrif
Gall eich ymdrechion codi arian wella ein siawns o atal neu wella diabetes, a’n helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Mae pawb sy’n gosod poster, yn gwneud cyfraniad, yn trefnu digwyddiad neu’n cymryd rhan mewn casgliad yn gwneud cyfraniad gwerthfawr.
Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi
Deunyddiau
Mae gan Diabetes UK Cymru amrywiaeth o ddeunyddiau codi arian ac ymwybyddiaeth i gefnogi eich digwyddiad. Mae’r rhan fwyaf o’r eitemau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i gefnogwyr. Byddwn ni’n ceisio dosbarthu eich archeb cyn pen saith niwrnod gwaith, ond caniatewch 28 niwrnod iddo ddod drwy’r post.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni am fanylion am sut i archebu ein deunyddiau neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein gweithgareddau codi arian.