Mae tua 160,000 o bobl Cymru’n gwybod bod diabetes arnyn nhw, neu bron i bump ymhob cant o’r boblogaeth. Mae’n debyg bod 66,000 o bobl eraill yn byw gyda’r cyflwr heb ei wybod.
Mae diabetes ar gynnydd yng Nghymru a thrwy’r byd, yn bennaf oherwydd ein ffordd o fyw. Yng Ngorllewin Ewrop, ennill pwysau sy’n gyfrifol bellach am tua 80% o achosion o diabetes. Fel rhan o hyn, yr ydym erbyn hyn yn gweld achosion o diabetes Math 2 mewn plant rhy drwm yng Nghymru.
Heb ei drin a’i reoli’n iawn, gall diabetes arwain at glefyd y galon, strôc, dallineb, clefyd yr arennau, a doluriau’r traed yn arwain at golli rhan o’r goes. Does ryfedd, felly, bod diabetes yn gyfrifol am tua 10% o gostau'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Ar y llaw arall, pan mae yn cael ei reoli’n dda, a phobl â diabetes yn cael eu cefnogi reoli’r cyflwr, mae ddigon posibl byw bywyd hir ac iach gyda fe. Mae Diabetes UK am ddarparu'r gefnogaeth sydd angen i helpu i hynny ddigwydd. Ar yr ochr chwith i'r tudalen hwn, cewch chi ddolenni i wybodaeth am rywfaint o'r gwaith yng Nghymru i wella gwasanaethau diabetes.