Digwyddiadau Gofal

Digwyddiadau Gofal

Mae ein digwyddiadau Gofal ar gyfer plant â diabetes, oedolion â diabetes, a theuluoedd lle mae plentyn â diabetes.

Ydych chi eisiau cwrdd â phobl eraill sy’n byw â diabetes, i rannu a dysgu oddi wrth eich gilydd mewn awyrgylch braf a hwyliog? Os felly, mae digwyddiadau Gofal Diabetes UK yno i chi.

Mae gan Diabetes UK dros 65 mlynedd o brofiad o redeg digwyddiadau, ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i gynnig gofal ac addysg diabetes o’r radd flaenaf, ynghyd â hyfforddiant arbenigol heb gyfaddawdu ar ddiogelwch.

Dod o hyd i ddigwyddiad sy’n addas i chi

Digwyddiadau ledled y DU

Mae digwyddiadau Gofal Diabetes UK yn digwydd ledled y DU. Yn yr adran hon rydym yn rhestru’r digwyddiadau yn eich ardal chi, ond mae croeso i chi ddewis o’r rhestr lawn o ddigwyddiadau Gofal ledled y DU.

Digwyddiadau yn eich ardal chi

Mae ein dyddiau rhwydweithio i rieni a theuluoedd yn gyfle i rieni plant â diabetes gael clywed am yr ymchwil ddiweddaraf a chwrdd â rhieni a theuluoedd eraill plant sydd â’r cyflwr.

Mae ein gwyliau i blant yn para wythnos ac yn digwydd yn ystod yr haf, ac maen nhw’n llawn gweithgareddau hwyliog a chyfleoedd i ddysgu am diabetes.

Mae ein penwythnosau i oedolion yn gyfle i bobl sydd â diabetes a’u partneriaid, eu hanwyliaid neu’u ffrindiau gael trafod y cyflwr a dysgu amdano.

Mae ein penwythnosau i deuluoedd yn cynnig ffordd i deuluoedd lle mae plentyn wedi cael diagnosis diabetes yn ddiweddar gael cwrdd â theuluoedd eraill sydd yn yr un sefyllfa, i ddysgu a rhannu profiadau.

 

Print basket

Save pages and print in one go.

What is this?