

Mae Diabetes UK Cymru newydd gynnal dau ddigwyddiad pwysig, ym Mangor ac yng Nghaerdydd, ar gyfer teuluoedd yn byw â diabetes.
Pwrpas y diwrnodau oedd rhoi cymorth i deuluoedd yn byw â diabetes yng Nghymru. Roedd y digwyddiadau rhyngweithredol yn darparu gweithgareddau unigryw, hwyliog, ac addysgol yn canolbwyntio ar yr effaith y mae diabetes yn cael are eu bywydau.
Roedd hefyd yn gyfle i deuluoedd rannu eu profiadau tra’n datblygu sgiliau a hyder i wynebu heriau dyddiol diabetes. Roedd Diabetes UK Cymru yn cydweithio â Getting Sorted ar gyfer y digwyddiadau hyn. Prosiect o Brifysgol Metropolitan Leeds, sydd wedi ei wobrwyo, yw ‘Getting Sorted’.
Mae’n rhaglen hunan-ofal sydd wedi cael ei datblygu i helpu pobl ifainc a’u teuluoedd i gymryd rheolaeth ar eu diabetes. Am fwy o wybodaeth am ‘Getting Sorted’ a’u gwaith ardderchog ymwelwch â http://www.leedsmet.ac.uk/gettingsorted/
Gallwch weld lluniau o’r digwyddiadau ar ein tudalen Facebook
Yn dilyn llwyddiant y ddau diwrnod i'r teulu yng Nghymru blwyddyn hon, mae Diabetes UK Cymru yn bwriadu dal mwy o ddigwyddiadau yn 2013. Wnewch chi gymryd os gwelwch yn dda pump munud i lenwi mewn yr holiadur isod er mwyn i ni sicrhau bod y digwyddiadau rydy'n ni'n trefnu yn rhai gorau posib ar gyfer teluoedd sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru.
Holiadur digwyddiadau teuluol (SAESNEG)