Dyddiadau Teulu 2012

Mae Diabetes UK Cymru wedi newydd cynnal dau ddigwyddiad pwysig ar gyfer teuluoedd yn byw â diabetes ym Mangor ac yng Nghaerdydd. Pwrpas y diwrnodau oedd rhoi cymorth i deuluoedd sy’n byw â diabetes yng Nghymru. Roedd y digwyddiadau rhyngweithredol yn darparu gweithgareddau unigryw, hwyliog, ac addysgol sy’n canolbwyntio ar yr effaith y mae diabetes yn cael are eu bywydau. fydd cyfle hefyd i deuluoedd rannu eu profiadau ac i ddatblygu sgiliau a’u hyder i wynebu heriau dyddiol diabetes.

Mae byw â materion dyddiol diabetes yn gallu bod yn sialens, nid yn unig i’r unigolyn ond i bob aelod o’r teulu. Mae Diabetes UK Cymru yn cydnabod fod teuluoedd angen nid yn unig addysg a chyngor clinigol, ond hefyd cymorth ymarferol ag emosiynol i ymdopi â diabetes a’i reoli o ddydd i ddydd. 

 Roedd Diabetes UK Cymru gydweithio â Getting Sorted ar gyfer y digwyddiadau hyn. Prosiect o Brifysgol Metropolitan Leeds, sydd wedi ei wobrwyo, yw ‘Getting Sorted’. Mae’n rhaglen hunan-ofal sydd wedi cael ei datblygu i helpu pobl ifainc a’u teuluoedd i gymryd rheolaeth ar eu diabetes. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â http://www.leedsmet.ac.uk/gettingsorted/

Gallwch chi gweld ffotograffiau o'r digwyddiadau teulu ar ein tudalen Facebook neu ar Flickr 


Print basket

Save pages and print in one go.

What is this?