Gwneud i'r GIG weithio'n well i chi
Mae gan y GIG bron i 100,000 o staff. Dyma'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru. Mae'r GIG yn gwario bron i £5 biliwn bob blwyddyn (£500 miliwn ar ddiabetes). Dyma'r adran fwyaf yn Llywodraeth Cymru.
Mae dros 160,000 o bobl sydd â diabetes yng Nghymru yn dibynnu ar gefnogaeth a gofal y GIG bob blwyddyn. Mae Diabetes UK eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gofal gorau posibl. Rydyn ni'n cwrdd yn gyson â chynrychiolwyr y GIG leded Cymru i sicrhau bod y gwasanaethau rydych chi'n eu cael gystal ag y gallan nhw fod a hefyd rydyn ni'n helpu llawer o bobl sydd â diabetes i gwrdd â staff y GIG i godi materion sy'n bwysig iddyn nhw.
Y GIG yn eich ardal leol chi
Os oes diabetes arnoch chi neu aelod o'r teulu, rydych chi'n debygol o gwrdd â nifer o bobl sy’n gweithio i’r GIG dros y flwyddyn. Gan ddibynnu ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, efallai y byddwch yn cwrdd â'ch meddyg teulu, nyrs practis neu nyrs arbenigol diabetes, podiatrydd neu'r ymgynghorydd a'r tîm proffesiynol iechyd yn eich ysbyty lleol.
Mae cleifion diabetes yn cwrdd â nifer o feddygon a nyrsys gwahanol yn aml ac mae'n gyffredin iddyn nhw deimlo 'ar goll yn y system'. Gobeithio y bydd y wybodaeth ganlynol yn rhoi canllaw syml i chi i rannau pwysicaf y GIG ac os oes gennych bryderon neu faterion yr hoffech eu codi, y ffordd hawsaf o wneud hynny gyda'r cynrychiolwyr GIG mwyaf priodol yn eich cymuned.
Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gweinidog: Lesley Griffiths
Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am sicrhau bod Byrddau Iechyd ledled Cymru yn rhoi gofal a chymorth o ansawdd uchel i bobl sydd â diabetes ledled Cymru. Cynhyrchodd yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes sy'n nodi'n union yr hyn ddylai pob Bwrdd Iechyd ei gyflawni.
Byrddau Iechyd
Ledled Cymru mae saith Bwrdd Iechyd. Mae'n rhaid i bob Bwrdd iechyd sicrhau bod y gofal y mae'n ei roi i bobl sydd â diabetes yn cyrraedd y safonau sy'n cael eu hegluro yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol. Byddan nhw'n adrodd i'r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am eu cynnydd.
Grwpiau Cynllunio a Chyflawni Diabetes (DPDGs yn Saesneg)
Er mwyn i bobl sydd â diabetes gael y gofal gorau, mae'r GIG yn gwybod ei bod hi'n bwysig clywed barn cleifion a chynnig cyfleoedd cyson i weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd â diabetes gael cwrdd, ystyried profiadau a gwella'r meysydd y mae pobl sydd â diabetes yn eu codi fel pryderon.
Mae Grŵp Cynllunio a Chyflawni Diabetes gan bob Bwrdd Iechyd sy'n cwrdd bob tri mis mewn ysbyty lleol neu leoliad yn y gymuned. Mae meddygon, nyrsys ac ymgynghorwyr sy'n arbenigo mewn diabetes yn cwrdd â phobl sydd â diabetes o'r gymuned leol. Yn ogystal mae cynrychiolwyr Diabetes UK yn mynychu'r cyfarfodydd hyn er mwyn cefnogi'r bobl sydd â diabetes sydd yno.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynhyrchu canllaw cynrychiolydd cleifion i helpu pobl sydd â diabetes sy'n mynychu Grwpiau Cynllunio a Chyflawni Diabetes.
Pe hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am fynychu cyfarfod lleol i chi er mwyn codi rhai materion sy'n bwysig i chi, cysylltwch â ni.
Grwpiau Cyfeirio Cleifion
Er mwyn cefnogi'r Grwpiau Cynllunio a Chyflawni Diabetes, mae Grwpiau Cyfeirio Cleifion diabetes ym mhob Bwrdd Iechyd. Mae croeso i bobl sydd â diabetes fynychu'r cyfarfodydd hyn ac weithiau mae'r grwpiau'n gwahodd meddygon a nyrsys i’w mynychu er mwyn rhoi gwybodaeth ac ymateb i gwestiynau sydd gan y grŵp.
Mae pob grŵp ychydig yn wahanol ond mae llawer o bobl sydd â diabetes yn mwynhau cwrdd er mwyn trafod byw gyda diabetes. Maen nhw'n rhannu profiadau a straeon am eu gofal iechyd, yn rhai da a drwg. Bydd dau neu dri aelod o Grŵp Cyfeirio Cleifion yn mynychu'r Grŵp Cynllunio a Chyflawni Diabetes lleol er mwyn siarad ar ran y grŵp a chynrychioli'r gymuned diabetes leol yn effeithiol.
Pe hoffech chi ddod i wybod rhagor am eich Grŵp Cyfeirio Cleifion diabetes lleol, Er mwyn cefnogi'r Grwpiau Cynllunio a Chyflawni Diabetes, mae Grwpiau Cyfeirio Cleifion diabetes ym mhob Bwrdd Iechyd. Mae croeso i bobl sydd â diabetes fynychu'r cyfarfodydd hyn ac weithiau mae'r grwpiau'n gwahodd meddygon a nyrsys i’w mynychu er mwyn rhoi gwybodaeth ac ymateb i gwestiynau sydd gan y grŵp.
Mae pob grŵp ychydig yn wahanol ond mae llawer o bobl sydd â diabetes yn mwynhau cwrdd er mwyn trafod byw gyda diabetes. Maen nhw'n rhannu profiadau a straeon am eu gofal iechyd, yn rhai da a drwg. Bydd dau neu dri aelod o Grŵp Cyfeirio Cleifion yn mynychu'r Grŵp Cynllunio a Chyflawni Diabetes lleol er mwyn siarad ar ran y grŵp a chynrychioli'r gymuned diabetes leol yn effeithiol.
Pe hoffech chi ddod i wybod rhagor am eich Grŵp Cyfeirio Cleifion Diabetes lleol, cysylltwch â ni.