Gwirfoddoli

Gwirfoddolwyr â Chris Needs MBE, a Maer a Maeres Caerdydd
Hoffech chi wneud gwahaniaeth i’r 2.8 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig s’yn byw â diabetes?
Rydyn ni’n lwcus fel elusen fod gennym 10,000 + o wirfoddolwyr sydd wrth galon Diabetes UK. Heb y cymorth a’r amser mae’r gwirfoddolwyr hyn yn eu cyfrannu, ni fyddai Diabetes UK yn gallu cwblhau ein gwaith holl bwysig tuag at ymchwil, gofal ac addysg.
Mae ein gwirfoddolwyr yn dod â sgiliau, profiad, egni, brwdrfrydedd ag ymrwymiad i Diabetes UK, ac yr ydyn ni’n ddiolchgar iawn iddynt. Gall gwirfoddoli wneud gwahaniaeth yn eich bywydau personol chi hefyd, yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd ac wrth gwrs mwynhau eich hunain.
Allech chi roi cyn lleied ag un awr o’ch amser i godi ymwybyddiaeth am diabetes?
Mae Diabetes UK Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd codi arian a gwirfoddoli i chi.
Gallwch:-
- Ymuno ag un o’n grwpiau gwirfoddol. Mae’r rhan fwyaf yn cwrdd bob mis – mae manylion grwpiau yn eich ardal ar y dudalen Grwpiau gwirfoddol.
- Dechrau grŵp newydd yn eich ardal drwy gysylltu â wales@diabetes.org.uk neu drwy ffonio 029 2066 8276.
- Ymuno â Lleisiau Diabetes.
- Lleisio eich barn am wasanaethau diabetes lleol drwy ymuno â Grŵp Ymgynghori Gwasanaethau Diabetes Lleol (Local Diabetes Services Advisory Group (LDSAG)) neu Grŵp Cyfeirio Cleifion.
- Dod yn aelod o’n cynllun siaradwyr a sôn am eich profiad gyda diabetes.
- Dod yn rhan o Gyngor Cynghori Cymru. Noder mai proses etholedig yw hon unwaith y flwyddyn.
- Rhoi blychau casglu i siopau lleol.
- Stiwardio, trefnu neu fynychu digwyddiadau codi arian a llawer mwy.
Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli, cysylltwch â ni.