
Aeth seiclwr mentrus o Ddinbych-y-pysgod, De Cymru, i seiclo am 300 milltir ar draws India i godi arian i Diabetes UK.
Roedd gan Claire Coates chwe diwrnod i gwblhau’r daith a ddechreuodd yn Agra, yng ngogledd India, a llwyddodd i godi £4,000 ar y daith.
Ymunodd Claire â thîm seiclwr ar daith a drefnwyd gan Charity Challenge, corff sy’n rhedeg profiadau teithio anturus i grwpiau ym mhedwar ban y byd.
Roedd taith y tîm yn cynnwys mynd ar hyd heolydd anwastad o dywod a charreg, trefi a phentrefi prysur a gwartheg oedd yn crwydro ar draws eu llwybr. Meddai Claire, er ei bod braidd yn ofnus weithiau, bod “pawb wedi cyd-dynnu a dod yn dîm gwych oedd yn cefnogi’i gilydd”.
Ar y llinell derfyn, derbynion nhw eu medalau a dathlu. Meddai Claire, er bod y daith yn un anodd, ei bod “wedi gwneud ffrindiau newydd gwych am oes”.