Newyddion

Cerddwch yr Ail Filltir dros Diabetes UK Cymru yr haf hwn!

Mawrth 2010

Mae Diabetes UK Cymru yn apelio am bobl i wisgo eu hesgidiau cerdded yr haf hwn i godi arian hanfodol yn ei ddigwyddiadau 'Cerdded yr ail filltir'.
 
Mae’r elusen yn cynnal pum digwyddiad 'Cerdded yr ail filltir' ledled Cymru’r haf hwn, gan ymweld ag Aberystwyth, Caerdydd, Llys-y-Fran, Llandudno ac Abertawe.

Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal rhwng mis Mai a mis Gorffennaf, ac yn amrywio o deithiau cerdded dwy filltir sy’n addas i’r teulu i gyd i deithiau mwy heriol hyd at wyth milltir.

Meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Mae 'Cerdded yr ail filltir' yn ffordd hwyliog, egnïol a syml i godi arian i Diabetes UK Cymru.

“Bydd yr arian sy’n cael ei godi gan 'Cerdded yr ail filltir' yn ein helpu i gynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth i bobl sydd wedi cael diagnosis diabetes ledled Cymru ac i ariannu ymchwil i’r cyflwr.”

I gael manylion llawn pob un o’r teithiau cerdded, ac i gofrestru ar-lein, ewch i’n tudalen Codi Arian.

 

Grŵp Trawsbleidiol ar Diabetes yn cael ei lansio

Mawrth 2010

Mae Grŵp Trawsbleidiol ar Diabetes yn cael ei lansio yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Diabetes UK Cymru a Jeff Cuthbert AC.

Bydd y cyfarfod lansio’n cael ei gynnal yn Adeilad Tŷ Hywel y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher 17eg o Fawrth. 

Bydd y grŵp yn cydweithio’n agos â Diabetes UK Cymru a Rhaglen Cefnogaeth gan Gymheiriaid Diabetes i gynnig fforwm i gyrff, gwneuthurwyr polisi a phobl sydd â diabetes yng Nghymru.                   Jeff Cuthbert AC

Meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Rydym wrth ein bod o gael gweithio gyda Jeff Cuthbert AC a Rhaglen Cefnogaeth gan Gymheiriaid Diabetes i sefydlu’r Grŵp Trawsbleidiol newydd ar Ddiabetes.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Grŵp Trawsbleidiol newydd ar Diabetes i roi gwybod i ACau, sy’n cynrychioli miloedd o bobl sydd â diabetes ledled Cymru, pa wasanaethau sydd ar gael i bobl sydd â’r cyflwr ar hyn o bryd a sut gallan nhw gael eu cefnogi.”

Meddai Jeff Cuthbert, AC dros Gaerffili a Chadeirydd y grŵp, sydd â diabetes Math 2: “Dwi wrth fy modd ein bod ni’n cydweithio i helpu i nodi pa mor bwysig yw lleihau’r perygl o ddatblygu diabetes Math 2, ac ar yr un pryd i annog y rheini sydd â’r cyflwr i fyw bywydau llawn a boddhaus.”

Dywedodd Wendy Gane, Cydlynydd y Rhaglen Cefnogaeth gan Gymheiriaid: “Croesawn sefydliad y Grŵp Trawsbleidiol ar Diabetes ac edrychwn ymlaen at gydweithio â’r Cynulliad, Diabetes UK Cymru a chymdeithasau gwirfoddol eraill ”

 

Cais i feicwyr Cymru danio eu beics ar gyfer Reid Feics Fawr Grav

Chwefror 2010

Mae cais ar i feicwyr danio eu beics modur i reidio o Lanelli er cof am Ray Gravell, arwr rygbi Cymru er budd Diabetes UK Cymru.

Mae cais i feicwyr gofrestru ar gyfer Reid Feics Fawr Grav ddydd Sadwrn 2 Mai er budd
Diabetes UK Cymru a Chyngor Cenedlaethol Deillion Iwerddon (NCIB).

Mae’r reid yn cael ei chynnal er cof am Ray Gravell, oedd â diabetes Math 2, ac a fu farw o drawiad ar y galon yn 2007.

Mae’r reid wedi cael ei threfnu gan The Blazing Bikers o Iwerddon, sy’n codi arian i NCIB, ar y cyd â Diabetes UK Cymru.

Meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o allu gweithio gyda Chyngor Cenedlaethol Deillion Iwerddon i gefnogi Reid Feics Fawr Grav er cof am Ray Gravell.

“Roedd Ray yn ddyn arbennig oedd yn annwyl i bawb ledled Cymru ac fe fuodd e’n gweithio’n agos gyda Diabetes UK Cymru tua diwedd ei oes ar ôl cael diagnosis diabetes.”

Meddai Eamon Duffy, o Gyngor Cenedlaethol Deillion Iwerddon (NCBI): “Mae cyngor Cenedlaethol Deillion Iwerddon wrth ei fodd o gael ymuno â Diabetes UK Cymru i gyd-drefnu’r digwyddiad Celtaidd unigryw hwn i godi arian.”

I gael manylion sut i gadw eich lle, cysylltwch â ni.

 

Gwthio gwely noddedig er budd Diabetes UK Cymru!

Chwefror 2009

Mae Diabetes UK Cymru yn gofyn i bobl Aberdâr roi eu nerth ar waith drwy gymryd rhan mewn gwthio gwely noddedig er budd yr elusen.

Mae gwthio gwely noddedig yn digwydd o Dafarn y Llew Coch, Penderyn i Temple Bar, Aberaman, ar 11a.m. ddydd Sadwrn 10 Ebrill.

Ar ôl gwthio’r gwely, bydd arwerthiant i godi arian yn y Temple Bar.

Robert Smith, Maer Rhondda Cynon Taf fydd yn rhoi’r gwthiad cyntaf i’r gwely. Enwodd y Maer Diabetes UK Cymru fel un o’i elusennau eleni.

Mae dros 25 o bobl wedi cofrestru’n barod, ac mae’r cyfan wedi’i drefnu gan Laura Banyard a Stuart Williams.

Cafodd Maddison, merch Stuart, a fydd yn bedair oed ym mis Mawrth, ddiagnosis diabetes Math 1 pan oedd hi’n 15 mis oed yn unig.

Meddai Stuart: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod ac yn gobeithio y bydd llawer o bobl yno.”

Meddai Laura, sy’n cyd-drefnu: “Mae’n achos arbennig o dda ac yn gyfle i godi ymwybyddiaeth am bobl ifanc sydd â diabetes.”

Cysylltwch â ni i gael manylion sut i gofrestru.

 

Diabetes UK Cymru yn gofyn i ysgolion gael diwrnod Ymarfer Corff dros Diabetes!

Chwefror 2010

Mae Diabetes UK Cymru yn gofyn i ysgolion roi herc, cam a naid i godi arian gyda diwrnod Ymarfer Corff noddedig.

Mae’r elusen wedi ysgrifennu i bob ysgol gynradd yng Nghymru, gan ofyn iddyn nhw gynnal Diwrnod Ymarfer Corff dros Diabetes ddydd Gwener 28 Mai.

Bydd y diwrnod yn codi arian hanfodol i’r elusen ac mae hefyd yn gyfle i ysgolion bwysleisio i’w disgyblion pa mor bwysig yw cadw’n egnïol.

Gall yr ysgolion ddewis pa bynnag weithgaredd a fynnan nhw ar gyfer eu diwrnod Ymarfer Corff noddedig.

Mae’r elusen yn rhedeg cystadleuaeth poster yn rhan o’r digwyddiad, gyda gwobr am yr ymgais sy’n ennill. Bydd gwobr arall i’r rhai sy’n codi’r swm mwyaf o arian.

Mae dros 1,400 o blant a phobl ifanc yng Nghymru wedi cael diagnosis diabetes Math 1. Mae 26 o blant eraill wedi cael diagnosis diabetes Math 2.

Meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Bydd yr arian sy’n cael ei godi gan y Diwrnod Ymarfer Corff dros Diabetes yn ein helpu i gefnogi’r 1,400 o blant sydd wedi cael diagnosis diabetes ledled Cymru yn ogystal â’u teuluoedd, ac i ariannu ymchwil i’r cyflwr.”

Cysylltwch â Ni i gofrestru eich ysgol i wneud Diwrnod Ymarfer Corff dros Diabetes.

 

100 o bobl yn mynychu Dirgelwch Llofruddiaeth ym Machynlleth

Chwefror 2010

Mynychodd dros 100 o bobl noson dirgelwch llofruddiaeth ym Machynlleth er budd Diabetes UK Cymru.

Daeth cant ac un o bobl i’r noson codi arian yng Ngwesty Plas Dolguog, Machynlleth, nos Wener 5 Chwefror.

O 7 yr hwyr i hanner nos, cafodd y rhai oedd yno flas ar bryd tri chwrs a dirgelwch llofruddiaeth, a’r cyfan er budd yr elusen.

Meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Hoffen ni ddiolch i’r trefnwyr a phob un o’r 101 o bobl a ddaeth i’r noson i godi arian hanfodol i Diabetes UK Cymru.

“Roedd hi’n noson wych a bydd yr arian a godwyd yn ein helpu i ariannu ymchwil i’r cyflwr.

Bydd yr arian a godwyd hefyd yn ein galluogi i gynnig help, cymorth a gwybodaeth i bobl sydd â diabetes a’u teuluoedd ledled Cymru.”

Pe hoffech chi godi arian i Diabetes UK Cymru, neu drefnu eich digwyddiad eich hun, ewch i’n hadran Codi Arian.

 

200 o bobl yn ymweld â digwyddiad Diabetes UK Cymru a chymunedau lleiafrifol 

Ionawr 2010

Cafodd dros ddau gant o bobl gwybodaeth a chyngor diabetes gan Diabetes UK mewn digwyddiad cymunedau lleiafrifol yng Nghaerdydd.

Ymwelodd dros 200 o bobl â stondin Diabetes UK Cymru yn Ffair Iechyd Cymunedau Ethnig Lleiafrifol yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ddydd Iau 21 Ionawr.

Roedd arweiniad i ddiabetes ar gael mewn saith iaith - Hindi, Punjabi, Bengali, Urdu, Gujarati, Somali a Chantoneg.

Roedd yr elusen yn un o 39 corff a wahoddwyd i’r digwyddiad chwe awr, gyda Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd, yn ei fynychu.

Meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Roeddem ni wrth ein bodd cael bod yn rhan o Ffair Iechyd Cymunedau Ethnig Lleiafrifol.

“Mae mwy o berygl i bobl o leiafrifoedd ethnig ddatblygu diabetes Math 2 a chael y cyflwr yn ifancach felly braf oedd gallu rhoi cymaint o wybodaeth hanfodol am y cyflwr.”

Pe hoffech chi gael gwybodaeth am ddiabetes mewn unrhyw un o’r ieithoedd a nodir uchod, cysylltwch â ni neu ewch i’n hadran Ieithoedd Eraill (Other Languages).

 

Cadwch eich adduned drwy redeg Hanner Marathon Caerdydd Diabetes UK Cymru!

Ionawr 2010

Mae Diabetes UK Cymru yn annog pobl i gadw eu haddunedau Blwyddyn Newydd iach drwy gofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd er budd yr elusen.  

Mae’r elusen eisiau i bobl sydd wedi addunedu i ddod yn heini yn 2010 osod her i’w hunain drwy redeg Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 17 Hydref er budd Diabetes UK Cymru.  

Bydd yr arian a gaiff ei godi’n mynd tuag at ariannu ymchwil i’r cyflwr a chynnig cyngor, gwybodaeth, addysg a grwpiau i gefnogi pobl sydd â diabetes a’u teuluoedd.  

Meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Cofrestru am Hanner Marathon Caerdydd yw’r ffordd berffaith o gadw eich addunedau Blwyddyn Newydd a chodi arian i Diabetes UK Cymru.

“Bydd yr arian a gaiff ei godi gan y rhedwyr yn talu am ymchwil hanfodol i’r cyflwr ac yn ein helpu i roi cyngor, cymorth a gwybodaeth i bobl sy’n byw gyda’r cyflwr a’u teuluoedd."  

I gofrestru, cysylltwch â ni ar 029 2066 8276 neu anfonwch neges e-bost i  wales@diabetes.org.uk. Hefyd gallwch gofrestru ar www.cardiffhalfmarathon.co.uk.

 

1,200 o bobl wedi ymweld â Sioe Deithiol 'Mesurwch' Diabetes UK yn ystod 2009

Ionawr 2010

Ymwelodd dros 1,200 o bobl â Sioe Deithiol Mesurwch Diabetes UK yn ystod ei thaith chwe mis o gwmpas Cymru yn ystod 2009.

Treuliodd ddau ddiwrnod yn Abertawe, Caerdydd, Abergwaun, Ynys Môn, Y Fenni, Dolgellau, Pwllheli, Aberystwyth, Aberdâr a Chasnewydd rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr.

Yn ystod 2010, bydd yn ymweld â 14 lleoliad ledled Cymru a bydd yn cynnig asesiadau risg diabetes Math 2 am ddim ym mhob man.

Roedd y sioe deithiol yn annog pobl i weld i fesur eu llinell wasg i weld a ydyn nhw mewn perygl o ddatblygu diabetes Math 2.

Os yw eich gwasg yn fwy, mae’n golygu eich bod 12 gwaith yn fwy tebygol o gael y cyflwr.

Y mesuriadau gwasg peryglus yw 37 modfedd neu fwy i ddynion, neu 35 i bobl o Dde Asia, a 31.5 modfedd neu fwy i fenywod.

Meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: "Hoffwn ddiolch i bawb a ymwelodd â Sioe Deithiol Mesurwch ar ei thaith o gwmpas Cymru.

"Rydym yn edrych ymlaen at fynd â’r sioe deithiol ar daith eto yn 2010 a byddem yn annog pawb i ymweld â hi."

 

Cadw rheolaeth ar eich diabetes y Nadolig hwn

Rhagfyr 2009

Mae Diabetes UK Cymru eisiau atgoffa pobl sydd â diabetes nad oes angen iddyn nhw osgoi mins peis yn llwyr er mwyn rheoli’r cyflwr dros y gwyliau.

Mae’r elusen yn annog pobl sydd â diabetes i fwynhau danteithion bob hyn a hyn dros gyfnod y Nadolig ac i fod yn egnïol.

Mae hefyd yn annog pobl i beidio â phrynu bwyd ‘diabetig’ fel ‘danteithion’ neu’n rhodd i bobl sydd â diabetes y Nadolig hwn.

Nid yw’r bwyd yma’n arbennig o lesol i bobl sydd â diabetes ac maen nhw’n aml yn ddrud.

Byddan nhw’n dal i effeithio ar lefelau glwcos y gwaed, maen nhw’n cynnwys llawn cymaint o braster a chalorïau â’r fersiynau arferol a gallan nhw wneud i bobl ddioddef dolur rhydd.

Meddai Chris Headland, Cynghorydd Gofal Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Gall pobl sydd â diabetes fwynhau mins peis a danteithion eraill y Nadolig yn union fel pobl sydd heb y cyflwr.

 “Rydyn ni’n argymell eu bod nhw’n gymedrol wrth eu bwyta bob hyn a hyn yn ystod gwyliau’r Nadolig a’u bod nhw’n egnïol, wrth gerdded y ci, dawnsio neu siopa.”

Ceir amrywiaeth o ryseitiau iachach y Nadolig gan Diabetes UK yma.

 

Osgowch broblemau traed diabetes drwy gael sliperi newydd y Nadolig hwn

Rhagfyr 2009

                             

Mae Diabetes UK Cymru’n annog pobl sydd â diabetes i ofyn am sliperi newydd y Nadolig hwn er mwyn lleihau’r perygl o gan anafiadau i’r traed a all arwain at eu torri i ffwrdd.

Mae’r elusen eisiau i bobl gael gwared ar sliperi anaddas a gofyn i’w hanwyliaid am bâr sy’n cynnal y traed i osgoi’r perygl o anafu eu traed o gwmpas y cartref.

Mae pobl sydd â diabetes mewn perygl o niweidio’r nerfau a’r cyflenwad gwaed i’w traed, a all achosi i’r traed fynd yn ddiffrwyth.

Gall hyn arwain at friwiau ar y traed a chlwyfau sy’n araf i wella. Gall y rhain, os ydyn nhw’n troi’n heintus, arwain at dorri troed i ffwrdd.

Ond mae’r ymchwilwyr o’r farn bod modd osgoi rhwng 49 y cant a 85 y cant o hyn.

Y Nadolig hwn mae Diabetes UK Cymru wedi creu poster Good Slipper Guide i ddangos pa rai yw’r mathau gorau o sliperi i leihau’r perygl o niwed.

Mae’r poster wedi’i seilio ar ymchwil a chyngor gan y rhai sy’n trin traed, ac mae’n argymell:

- Sliperi hyblyg, sy’n dda i’r cydbwysedd
- Defnyddiau meddal i’r gwadn, i gael gwell gafael.
- Strapiau felcro, er mwyn i’r sliperi ffitio’n dda.
- Cael sliperi sydd â darnau cadarn i gynnal y traed.
- Edrychwch y tu mewn rhag ofn bod mannau anwastad, a all effeithio ar eich cydbwysedd.

Meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Mae’n ofnadwy bod 240 o bobl sydd â diabetes yng Nghymru’n colli un o’u haelod isaf bob blwyddyn.

“Y Nadolig hwn rydyn ni eisiau lleihau’r nifer hwn drwy gael pobl sydd â diabetes i wisgo sliperi addas gartref.”

 

Wyth deg o rieni’n mynychu digwyddiadau diwrnod rhwydweithio am ddim

Rhagfyr 2009

Mynychodd wyth deg o rieni ddau ddigwyddiad rhwydweithio a gynhaliwyd gan Diabetes UK Cymru ar y cyd â Sefydliad Ymchwil Diabetes Plant (JDRF) ym mis Tachwedd.

Mynychodd pedwar deg o rieni bob un o’r digwyddiadau, a gynhaliwyd yn Ne Cymru a Gogledd Cymru.

Cynhaliwyd digwyddiad De Cymru yng ngwesty Novotel, Bae Caerdydd, ar ddydd Sadwrn 21 Tachwedd, a chynhaliwyd digwyddiad Gogledd Cymru yng ngwesty St George, Llandudno, ar ddydd Sadwrn 28 Tachwedd.

Yn ystod y digwyddiad pum awr o hyd, siaradodd arbenigwyr diabetes am yr ymchwil ddiweddaraf i ddiabetes Math 1 ac ateb cwestiynau gan rieni am y cyflwr.

Meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Roedd hi’n bleser i Diabetes UK Cymru gael cydweithio gyda JDRF i gynnal y digwyddiadau rhwydweithio i rieni.

“Roedden nhw’n gyfle ardderchog i rieni plant sydd â diabetes gael dysgu rhagor am yr ymchwil hanfodol sy’n cael ei gwneud i’r cyflwr.

“Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiadau ac roddodd anerchiadau.”