Straeon Digidol

  
Mae stori ddigidol yn recordiad o brofiadau bywyd rhywun gyda lluniau ac weithiau fideo i gydfynd ag ef. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Diabetes UK Cymru wedi bod yn gweithio gyda Storyworks ym Mhrifysgol Morgannwg i gynhyrchu straeon ddigidol gan bobl â diabetes yng Nghymru. Rydym yn gobeithio ychwanegu at ein storfa o straeon dros amser ac yn awyddus iawn i gael mwy o siaradwyr Cymraeg a phobl o gymunedau grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Os oes gennych stori i'w hadrodd, cysylltwch â carol.owen@diabetes.org.uk Os cliciwch ar bob enw gallwch weld eu stori.

Malcolm

Mae Malcolm wedi cael diabetes Math 1 ers yn blentyn. Mae'n sôn am sut y bu'n anwybyddu ei gyflwr yn ystod ei arddegau a'i ugeiniau a dechrau dioddef y canlyniadau. Aiff ymlaen i ddisgrifio ei bwmp inswlin newydd a'r gobaith y mae wedi ei roi iddo ar gyfer y dyfodol.


 

Francis


 


Mae Francis yn egluro sut y cafodd diabetes Math 2 a'r newidiadau sydd wedi digwydd i'w fywyd o ganlyniad i hynny.

Melanie 

 


Mae'r athletwraig o Gaerdydd yn siarad am ei diabetes Math 1 a'r hyfforddiant iechyd a'i rhoddodd ar y trywydd cywir i reoli ei chyflwr.

Andrew

 


Mae Andrew yn siarad am ei ymateb pan gafodd wybod bod ganddo ddiabetes Math 2 a'r newidiadau a wnaeth i'w ffordd o fyw

Hannah


Mae Hannah, sy'n 14 oed, yn dweud wrthym sut brofiad yw bod yn ddibynnol ar inswlin yn ei harddegau a sut mae pwmp inswlin wedi newid ei bywyd.

David 

 


Mae David, sy'n landlord tafarn yn sôn am sut y gwnaeth esgeuluso ei ddiabetes Math 2, tan y diwrnod tyngedfennol hwnnw pan drodd ei droed yn ddu dros nos, ac yn wynebu colli ei droed. Mae'n disgrifio sut yr ymatebodd i'r newid byd hwn a'i obeithion ar gyfer y dyfodol.

Yvonne a Tina


 

Mae Yvonne a Tina yn ddwy chwaer ac yn siarad am eu profiad o gael diabetes Math 2 o fewn misoedd i'w gilydd a'u hanawsterau o'i gadw o dan reolaeth.


 

Stewart




Mae Stewart yn sôn am ei brofiadau yn magu merch ifanc â diabetes Math 1.

Holly



Mae Holly yn 12 oed ac mae ganddi ddiabetes Math 1. Mae’n siarad am ei phwmp a sut y mae ei chyflwr yn effeithio ar ei bywyd.

Print basket

Save pages and print in one go.

What is this?