Grwpiau gwirfoddol yng Nghymru
Croeso i wefan gwirfoddolwyr Diabetes UK Cymru

Mae gwirfoddoli yng Nghymru yn gwella drwy’r amser. Mae nifer o ffyrdd i chi gymryd rhan er mwyn:
- helpu eraill gyda’u diabetes
- dysgu am eich diabetes
- codi ymwybyddiaeth ymhlith eraill nad ydyn nhw efallai’n ymwybodol o’r cyflwr.
Yn y tudalennau hyn fe gewch chi newyddion am yr holl grwpiau gwirfoddol a gwybodaeth gyffredinol am yr hyn sydd ar gael. Pe hoffech chi gynnwys eitemau neu newyddion am wirfoddoli yng Nghymru cysylltwch â swyddfa Cymru.
Sut i Wirfoddoli
Mae sawl ffordd wahanol o wirfoddoli:
- Ymunwch ag un o’r grwpiau gwirfoddol presennol. Mae’r rhan fwyaf o’r grwpiau’n cwrdd bob mis ac mae manylion grŵp yn eich ardal ar wefan y grŵp.
- Dechreuwch grŵp newydd yn eich ardal. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â wales@diabetes.org.uk neu 02920 668276
- Bod yn rhan o Gyngor Cynghorol Cymru. Cysylltwch â 02920 668276 am fanylion gan mai proses ethol unwaith y flwyddyn yw hon.
- Bod yn rhan o Rwydwaith Ymgyrchwyr Diabetes. Grŵp o unigolion yw hwn sy’n ymgyrchu i gael gwasanaethau gwell ac ati.
- Lleisio eich barn am wasanaethau diabetes lleol drwy ymuno â Grŵp Cynghorol Gwasanaethau Diabetes Lleol (LDSAG) neu Grŵp Cyfeirio.
- I gyd-fynd â’r uchod mae nifer o weithgareddau a all helpu Diabetes UK Cymru i gyrraedd eu nodau, e.e. stiwardio neu drefnu digwyddiadau codi arian, bod yn aelod o’r cynllun siaradwyr, hwyluso dosbarthu blychau casglu i siopau, garejys a thafarnau lleol a llawer mwy.