Sut rydyn ni'n helpu
Mae Diabetes UK Cymru yn helpu pobl sydd â diabetes, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwirfoddolwyr drwy roi cymorth lleol a gwybodaeth.
Pobl sydd â diabetes
Rydyn ni’n anfon cylchlythyrau a chyhoeddiadau cyson at bobl sydd â diabetes a’u teuluoedd gan roi’r newyddion diweddaraf iddyn nhw am ymchwil, digwyddiadau codi arian ac unrhyw newyddion arall sy’n gysylltiedig â diabetes.
- Rydyn ni’n rhoi sgyrsiau i ysgolion a grwpiau cymunedol am diabetes i sicrhau bod y rhai sy’n byw gyda’r cyflwr yn cael y gefnogaeth briodol, lle bynnag maen nhw.
- Rydyn ni’n rhoi gwybodaeth dros y ffôn ac yn gallu anfon pecynnau gwybodaeth i bobl ddeall yn well sut mae rheoli diabetes.
- Rydyn ni’n hyrwyddo bod pobl sydd â diabetes, eu ffrindiau a’u teuluoedd yn cael eu cynnwys wrth gynllunio gwasanaethau diabetes lleol.
- Rydyn ni’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian, cymorth ac ymwybyddiaeth gydol y flwyddyn.
- Rydyn ni’n rhedeg digwyddiadau sydd wedi’u hanelu at bobl sydd â diabetes a’u teuluoedd er mwyn eu helpu i drafod eu profiadau a’u teimladau ag eraill sydd yn yr un sefyllfa.
- Rydyn ni’n sicrhau bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am diabetes yn cael eu codi drwy’r cyfryngau yng Nghymru.
Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
Gwella gofal diabetes yng Nghymru drwy sefydlu cysylltiadau da â Byrddau Iechyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
- Rhoi cymorth a’r wybodaeth ddiweddaraf am bob agwedd ar ddiabetes, gan gynnwys nosweithiau diweddaru.
- Cynnal digwyddiadau ymwybyddiaeth a mynychu digwyddiadau allanol.
- Rhoi adborth gan bobl sydd â diabetes am wasanaethau gofal iechyd.
- Grymuso pobl sydd â diabetes drwy roi gwell gwybodaeth iddyn nhw am y cyflwr a sut mae ei reoli eu hunain.
Gwirfoddolwyr a rhai sy’n codi arian