Diabetes UK Cymru yn lansio ymgyrch 4T

Gallai cofio pedair llythyren flaen symptomau atal plentyn rhag mynd yn ddifrifol wael, yn ôl prif elusen ddiabetes Cymru mewn ymgyrch a lansiwyd heddiw.

 Mae cynifer ag un o bob pedwar plentyn yn cael diagnosis diabetes Math 1 pan fyddan nhw’n dioddef ketoacidosis diabetig (diabetic ketoacidosis (DKA)) – cyflwr sy’n fygythiad i fywyd y mae angen sylw meddygol brys arno. I blant o dan bum mlwydd oed, mae cynifer ag un o bob tri’n dioddef o’r cyflwr.

 “Mae’n adeg frawychus i bawb sy’n gysylltiedig â’r plentyn. Dyna pam rydyn ni wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am bedwar symptom mwyaf cyffredin diabetes Math 1,” meddai Dai Williams, cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, y bu bron i’w fab ei hun farw cyn iddo gael diagnosis 12 mlynedd yn ôl.

 “Rydyn ni o’r farn y dylai pawb sy’n adnabod plentyn fod yn ymwybodol o 4T diabetes Math 1, eu cofio nhw a gwybod beth i’w wneud os dôn nhw ar eu traws nhw.”

 Mae’r pedair T yn sefyll am Tŷ Bach, Teneuach, Teimlo’n Sychedig, Teimlo’n Flinedig: Tŷ Bach - Mynd i’r tŷ bach yn aml, plentyn sy’n arfer bod yn sych gyda’r nos yn gwlychu’r gwely neu gewynnau trymach gan fabanod Teneuach – Colli pwysau neu edrych yn deneuach nag arfer Teimlo’n Sychedig – Teimlo’n sychedig iawn a methu torri’r syched hwnnw Teimlo’n Flinedig – Teimlo’n fwy blinedig nag arfer Os yw plant a phobl ifanc yn cael diagnosis cyflym a thriniaeth gynnar, gallan nhw osgoi mynd yn ddifrifol wael gyda DKA. Meddai Chris Headland, cynghorydd gofal yr elusen,

 “Os oes gan blentyn unrhyw un o arwyddion a symptomau 4T, dylech chi fynd â nhw’n syth at y meddyg a mynnu ei fod yn cael prawf am ddiabetes Math 1 yn y fan a’r lle. “Y cyfan sydd ei angen yw prawf gwaed pigo bys cyflym a syml, y gall eich meddyg teulu ei wneud yn syth. Os yw’r canlyniad yn dangos diabetes Math 1, dylai’r meddyg teulu gyfeirio’r plentyn at dîm diabetes plant arbenigol yr un diwrnod fel y gall gael triniaeth yn syth i reoli’r diabetes ac atal DKA.”

 Mae Diabetes UK Cymru yn gofyn i’r cyhoedd ledaenu’r gair drwy lawrlwytho, argraffu neu archebu posteri a thaflenni 4T i’w dosbarthu yn y gymdogaeth neu’r gweithle. “Gallech chi geisio eu harddangos nhw yn eich archfarchnad, canolfan gymunedol, meddygfa neu ysgol leol.

Gallwch chi archebu posteri a thaflenni am ddim o’n siop ar-lein, neu drwy ffonio 0800 585 088 ar ddiwrnodau gwaith o 8am i 6pm,” meddai Dai Williams.

 Ar y cyd â JDRF UK, mae’r elusen wedi cynhyrchu #Type1aware – fideo byr, sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni, gofalwyr, athrawon a gweithwyr iechyd proffesiynol am arwyddion a symptomau diabetes Math 1.

 Gallwch weld y fideo a’i rannu drwy e-bost, neu ar Facebook neu Twitter (http://www.diabetes.org.uk/type1aware). Hefyd mae Diabetes UK Cymru eisiau i bobl ei rannu gyda gwleidyddion lleol a gofyn i siopau lleol annog rhieni i’w wylio.


Print basket

Save pages and print in one go.

What is this?