Diabetes UK Cymru yn lansio ymgyrch traed gyda Diwrnod Carwch eich Traed
Mae Diabetes UK Cymru eisiau i bobl Cymru sydd â diabetes garu eu traed oherwydd os oes diabetes arnoch chi, gall problemau traed fod yn ddifrifol. Bob blwyddyn, mae cannoedd o fysedd traed, traed a choesau’n cael eu torri mewn llawdriniaethau yng Nghymru oherwydd cymhlethdod diabetes o’r enw niwropathi, neu ddifrod i’r nerfau.
Er mwyn annog pobl i ofalu am eu traed, mae Diabetes UK Cymru wedi cynnal Diwrnod Carwch eich Traed yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas ym Mhlas Windsor, Caerdydd, ddydd Mercher 13 Mehefin o 10 a.m. i 2 p.m. Roedd podiatryddion y GIG a phreifat wrth law i gynnig archwiliadau traed am ddim, lluniaeth, stondinau a digon o gyngor a gwybodaeth.
Roedd y diwrnod yn nodi lansiad ymgyrch Diabetes Uk Cymru - Rhoi eich Traed yn Gyntaf - gallwch ddarllen mwy am hyn ar y tudalennau newyddion.
Cyhoeddwyd taflen newydd – Deg Cam at Traed Iach – i gyd-fynd a'r ymgyrch. Gallwch ei lawrlwytho yng Nghymraeg neu Saesneg yma.
Medd Dai Williams, cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru: “Mae’r digwyddiad hwn ar agor i bawb - ond rydyn ni eisiau croesawu’r rhai sydd â diabetes yn arbennig oherwydd bod gofalu am eu traed mor hanfodol iddyn nhw. Fydd ein podiatryddion ddim yn cynnig triniaeth, ond os yw’r archwiliad yn datgelu unrhyw beth sy’n achosi pryder, byddan nhw’n trefnu eich bod chi’n cael eich cyfeirio at glinigau’r GIG yn syth.”