Amdanon ni

Mae gan Diabetes UK Cymru dîm brwdfrydig o staff a gwirfoddolwyr sy’n gwneud ein gwaith yng Nghymru. Dyma fanylion y staff sydd yma i’ch helpu chi.

 

Dai Williams – Cyfarwyddwr Cenedlaethol

Cafodd Dai ei eni a’i fagu ym Merthyr Tudful a hyfforddodd fel biocemegydd, ond buodd e’n gweithio am nifer o flynyddoedd gyda’r BBC yn Llundain a Chaerdydd, gan gynnwys ym maes addysg a hyrwyddo iechyd. Bellach mae e’n arwain gwaith Diabetes UK yng Nghymru. Mae diabetes ar ei wraig a’i fab.

Chris Headland - Ymgynghorydd Clinigol Cenedlaethol dros Gymru.

Mae gan Chris brofiad a gwybodaeth helaeth am ddiabetes yn bersonol ac yn broffesiynol. Bu’n gweithio yn y GIG a’r sector elusennol (dros Diabetes UK Cymru) ac yn fwyaf diweddar fel Nyrs Arbenigol Diabetes yn y sector masnachol. Cafodd Chris ddiagnosis diabetes Math 1 pan oedd yn blentyn yn 1992, felly mae’n ymwybodol iawn o’r heriau sy’n gallu codi wrth dyfu gyda’r cyflwr.
Mae Chris yn gweithio yn swyddfa Gogledd Cymru ym Mhrestatyn, er bod ganddo rôl genedlaethol i’r elusen.

Danielle Angell, Swyddog Cynorthwyol Hwylusydd Datblygu Gwirfoddolwyr

Ymunodd Danielle a Diabetes UK Cymru yn mis Ebrill 2011 ar old symud nol o Lundain lle buodd hi’n gweithio yn brif swyddfa Diabetes UK.  Ers graddio yn 2009 mae Danielle wedi bod yn lwcus iawn I ennill brofiad arbennig trwy weithio ar gyfer elusennau fel Diabetes UK a Cancer Research UK.  Rol Danielle yn y swyddfa yw I roi gymorth I’r swyddog datblygu gwirfaddolwyr.  Gan fod hi’n hoffi cymryd rhan yn digwyddiadau I godi arian ac yn  gwirfaddolwr awyddus eu hunain  mae’r swydd hyn yn un mae’n eu charu!  

Ellen Blanks – Hwylusydd Datblygu Gwirfoddolwyr

Daeth Ellen i Diabetes UK Cymru ar ôl bod yn gweithio i un o’r prif fanciau am 15 mlynedd. Mae hi’n gweithio i gefnogi ein gwirfoddolwyr a’n Grwpiau Gwirfoddol, y mae Diabetes UK yn dibynnu cymaint arnyn nhw. Mae hi’n disgrifio gweithio i Diabetes UK fel "y swydd brafiaf fuodd gen i erioed." Cysylltwch ag Ellen am gyngor ar sut i wirfoddoli dros Diabetes UK neu am help i sefydlu grŵp cefnogi diabetes yn eich ardal.

Jane Clark – Gweinyddwr Prosiect Gofal

Ymunodd Jane â Diabetes UK Cymru ym mis Mehefin 2009. Cafodd ei hyfforddi fel gwyddonydd bwyd, ac mae Jane hefyd ar hyn o bryd yn rhedeg ei busnes ei hun yn gweithio’n rhan amser fel ymgynghorydd ymchwil. Mae swydd Jane yn Diabetes UK Cymru yn ei galluogi i ddefnyddio ei phrofiad busnes a gweinyddol, gan helpu pobl sydd â Diabetes ar lefel leol ac ym mhob cwr o Gymru.

Mae Jane hefyd yn gyfrifol am helpu’r Cynghorydd Gofal gyda’r gweinyddu o ddydd i ddydd a helpu wrth gynllunio a threfnu digwyddiadau a chyfarfodydd. Ei rôl hefyd yw cryfhau a datblygu cysylltiadau â grwpiau clinigol, gwirfoddol a chleifion/rhieni lleol.

Joseph Cuff – Rheolwr Codi Arian Cenedlaethol

Joseph yw ein Rheolwr Codi Arian diflino. Gyda’i dîm o wirfoddolwyr ymroddedig, mae e’n gweithio i sicrhau bod gwaith Diabetes UK yng Nghymru’n cael yr arian sydd ei angen arno i barhau. Mae ein tîm codi arian yn cynllunio rhaglen ddigwyddiadau gyffrous gydol y flwyddyn, o deithiau cerdded a rasys i giniawau ffurfiol a nosweithiau dirgelwch llofruddiaeth. Hefyd, gallan nhw gynnig help i roi eich syniadau chi ar waith.

Jason Harding – Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus

Mae Jason wedi bod yn gweithio i Diabetes UK Cymru ers diwedd 2009 ac mae ganddo lawer o brofiad o ymgyrchoedd a gwaith polisi i elusennau iechyd a phlant. Bydd e’n gweithio’n galed i sicrhau bod gwleidyddion, ymarferwyr iechyd proffesiynol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru’n hollol eglur o ran beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i sicrhau bod pobl sydd â diabetes, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw’n ei haeddu.

Mary Nicholls – Swyddog Cymorth Cenedlaethol

Roedd Mary’n hen gyfarwydd â diabetes cyn iddi ddod i weithio i Diabetes UK Cymru gan fod ganddi nifer o ffrindiau a oedd yn byw gyda diabetes a’i gymhlethdodau. Roedd hi hefyd bob amser wedi eisiau gweithio dros elusen.  Mae Mary’n gyfrifol am lawer o’r gwaith gweinyddol a rheoli ariannol yn y swyddfa, a hi hefyd sy’n trefnu nifer o’n cynadleddau a’n cyfarfodydd.

Kerry-Lynne Pyke – Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu

Ymunodd Kerry-Lynne â Diabetes UK Cymru yn 2009 ar ôl bod yn gweithio fel newyddiadurwraig cyn hynny. Mae hi’n cydlynu sylw’r cyfryngau i Diabetes UK Cymru drwy ysgrifennu datganiadau i’r wasg ac i gyhoeddiadau Diabetes UK, y wefan, grŵp Facebook a chyfrif Twitter yr elusen. Mae hi hefyd yn cynrychioli’r elusen drwy wneud cyfweliadau ar y radio a’r teledu. Cysylltwch â Kerry-Lynne am wybodaeth sy’n gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth am ddiabetes yn y cyfryngau.

Karen Rossi – Cynorthwyydd Codi Arian

Gweithiodd Karen i Diabetes UK Cymru fel gwirfoddolwr am ddwy flynedd cyn dod yn aelod o dîm Cymru yn 2008. Mae hi’n cefnogi Joseph Cuff ym mhob digwyddiad codi arian ledled Cymru. Mae Karen hefyd yn weithgar adeg diwrnodau cefnogi rhieni/plant ac mae ganddi ferch sydd â diabetes Math 1 ers 2001.

Sue Thomas – Cynorthwyydd Codi Arian

Mae Sue wedi bod yn gweithio i Diabetes UK Cymru am yn agos i ddeng mlynedd. Mae hi’n sicrhau bod ein digwyddiadau codi arian yn rhedeg yn dda, ac mae hi’n cadw ein cyflenwad o wybodaeth am ddiabetes yn gyfredol. 

Print basket

Save pages and print in one go.

What is this?