Ymgyrchu

 

Mae 160,000 o bobl sydd â diabetes yng Nghymru ac mae 66,000 o bobl sydd â’r cyflwr heb iddyn nhw wybod hynny hyd yn oed. Mae hi’n broblem fawr sydd ar gynnydd.

Mae Diabetes UK Cymru yn gweithio’n agos gyda phobl sydd â diabetes, rhieni a gofalwyr, grwpiau cefnogi lleol, elusennau ac arbenigwyr gofal iechyd i wneud yn siŵr fod y GIG a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd y cyflwr o ddifrif ac yn rhoi’r gofal a’r cymorth gorau posibl.

Ymgyrchu dros bobl sydd â diabetes yng Nghymru

  • Rydyn ni’n mynychu cyfarfodydd gyda grwpiau gwirfoddol a grwpiau cyfeirio cleifion diabetes ledled Cymru er mwyn deall y prif bethau sy’n peri pryder i chi, a’r meysydd rydych chi eisiau eu gweld yn gwella.
  • Gwell mynediad i gyrsiau addysg strwythuredig i’ch helpu i reoli eich diabetes yn well.
  • Cyflwyno Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yn well i chi gael yr ansawdd gofal gorau.
  • Gwell mynediad i’ch cofnodion iechyd.

Mae Diabetes UK Cymru yn gweithio’n galed i wneud gwahaniaeth. Er mwyn i ni gael yr ansawdd gofal gorau i chi, mae angen eich cefnogaeth arnom.

Ydych chi’n poeni am fater sy’n gysylltiedig â diabetes yn eich cymuned leol? Hoffech chi newid rhywbeth rydych chi’n anhapus yn ei gylch ond wyddoch chi ddim pwy i siarad ag ef neu sut i wneud i bethau ddigwydd? Gallwn ni eich helpu.

Cysylltwch i ni i gael cymorth.

Print basket

Save pages and print in one go.

What is this?