Sioe Pen-ffordd
Sioe Deithio Ffordd o Fyw Iach 2012
Ymwelodd bron i 1,000 o bobl Sioe Deithiol Ffordd o Fyw Iach Diabetes UK Cymru i gael asesiad risg diabetes Math 2 yn ystod y daith ledled Cymru yn 2012.
Daeth 995 o bobl i gael yr asesiad i weld a oedd perygl iddyn nhw ddatblygu diabetes Math 2 yn ystod y 10 mlynedd nesaf.
O’r rhai a gafodd eu hasesu, roedd dros hanner (55%) – 549 o bobl – mewn perygl cymedrol neu uchel a chawson nhw eu cyfeirio at eu meddyg teulu i gael prawf diabetes.
Rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd, ymwelodd y sioe deithiol â Chastell-nedd, Wrecsam, Llanelli, Caerffili, Caerdydd a Chwmbrân gynnig yr asesiadau, cyngor diet a ffordd o fyw a ffrwythau am ddim i bob ymwelydd.
Nod y sioe deithiol, a oedd hefyd yn cynnwys ardal gweithgaredd corfforol, yw codi ymwybyddiaeth am y cyflwr a’r ffactorau risg ar gyfer datblygu diabetes Math 2.
Bydd y sioe deithiol yn teithio ar draws Cymru eto’r trwy 2013 a bydd manylion pellach ar gael yn fuan.