Cymru

Diabetes UK yw’r brif elusen sy’n gweithio dros bobl â diabetes, yn ariannu ymchwil, yn ymgyrchu ac yn helpu pobl i fyw â’r cyflwr. Ein cenhadaeth yw gwella bywydau pobl sydd â diabetes a gweithio tuag at ddyfodol heb ddiabetes.

Agorodd Diabetes UK ei swyddfa genedlaethol gyntaf yng Nghymru ym 1996. Ei nod yw rhoi gwasanaeth dwyieithog cynhwysfawr i bobl sydd â diddordeb mewn diabetes, gwneud diabetes yn flaenoriaeth ar lefel wleidyddol a phwyso am wella ansawdd gwasanaethau diabetes yng Nghymru.

Mae’r adran hon yn disgrifio gwaith Diabetes UK Cymru, sy’n cynnwys helpu pobl sydd â diabetes, gweithwyr iechyd proffesiynol a grwpiau gwirfoddol lleol, trefnu gweithgareddau codi arian ac ymgyrchu.