Savefor later Page saved! You can go back to this later in your Diabetes and Me Close

Rhaglen pobl ifanc

YPPs.jpg

Beth yw'r Rhaglen Pobl Ifanc?

Dyma raglen a gaiff ei rhedeg gan bobl ifanc â diabetes i bobl ifanc â diabetes, a'i nod yw rhoi'r hyder angenrheidiol iddyn nhw reoli eu cyflwr eu hunain. Ar ôl cael profiad o ddiabetes eu hunain gallan nhw roi cyngor ymarferol yn ogystal â chefnogaeth emosiynol i'w cyfoedion. Maen nhw'n helpu ar ein diwrnodau i'r teulu lle y gallan nhw rannu eu profiad er lles plant, pobl ifanc a'u teuluoedd o bob rhan o Gymru. Mae'r bobl ifanc yn frwd am wella cefnogaeth i bobl ifanc sy'n byw â diabetes Math 1 ac yn dymuno lledaenu'r gair ymhell ac agos.

Pwy yw'r Bobl Ifanc?

Mae'r holl bobl ifanc rhwng 18 a 30 oed, mae pob un â diabetes Math 1 ac maen nhw'n deall yr heriau sy'n gysylltiedig â byw â'r cyflwr hwn. Mae rhai yn nyrsys, rhai yn athletwyr, rhai yn artistiaid a rhai yn fyfyrwyr. Maen nhw'n amrywio o'r rheini sydd wedi byw â diabetes ers dros 20 mlynedd i'r rheini sydd wedi cael diagnosis yn ddiweddar. Mae rhai yn defnyddio pwmp inswlin ac eraill yn cael pigiadau. Ni waeth beth maen nhw'n ei wneud neu sut y maen nhw'n rheoli eu diabetes, mae pob un yn annibynnol ac yn ysbrydoliaeth yn eu ffordd eu hunain.

Sut y gallwch gymryd rhan

Os ydych yn 18-30 oed, â diabetes Math 1, a hoffech gefnogi pobl ifanc sy'n byw â'r cyflwr, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych. Rydym ar hyn o bryd yn edrych am y grŵp nesaf o bobl ifanc a all ehangu ar lwyddiant y rhaglen eisoes. I ddarganfod rhagor, cysylltwch â wales@diabetes.org.uk

Back to Top
Brand Icons/Telephonecheck - FontAwesomeicons/tickicons/uk