Savefor later Page saved! You can go back to this later in your Diabetes and Me Close

Polisi gofal iechyd yng Nghymru

Dyma rai o'r datblygiadau pwysig o ran polisi gofal iechyd sy'n effeithio ar wasanaethau diabetes yng Nghymru ac yn amlygu'r newidiadau sydd ar waith dros y blynyddoedd nesaf.

Law%20yn%20Llaw%20at%20Iechyd.png

Law yn Llaw at Iechyd

Law yn Llaw at Iechyd yw strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau diabetes yng Nghymru ac mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru ei fersiwn ei hun o'r strategaeth genedlaethol.

Mae'r strategaeth yn esbonio pa wasanaethau a chefnogaeth y dylai pobl â diabetes eu cael a sut y mae GIG Cymru'n mesur ansawdd y gwasanaethau rydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw.

Gallwch naill ai weld yradroddiad llawn(PDF, 343KB) neu'r daflen grynhoi(PDF, 121KB).

committee%20inquiry.png

Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Wasanaethau Diabetes

Ym mis Mehefin 2013, rhoddodd Llywodraeth Cymru, gweithwyr iechyd proffesiynol, pobl â diabetes ac elusennau megis Diabetes UK dystiolaeth i banel o ddeuddeg o Aelodau Cynulliad o gyflwr gwasanaethau diabetes yng Nghymru. Ar ôl ystyried y dystiolaeth, lluniodd y panel dri ar ddeg o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd ledled Cymru i wella gwasanaethau diabetes yn y dyfodol.

Mae Diabetes UK Cymru bellach yn gweithio i sicrhau y rhoddir yrargymhellion(PDF, 1MB) hyn ar waith.

rsz_diabetes_watch_screenshot.png

Back to Top
Brand Icons/Telephonecheck - FontAwesomeicons/tickicons/uk