Mae llawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan a helpu'r rheini sy'n byw â diabetes yng Nghymru. Ni waeth faint o amser sydd gennych neu pa mor ymrwymedig yr ydych yn dymuno bod, dyma le y gallwch ddysgu rhagor am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi wneud gwahaniaeth i bobl sy'n byw â diabetes yng Nghymru.
Mae ein Swyddogion Gwirfoddoli bob tro'n awyddus i glywed gan wirfoddolwyr posibl. Gallwchwirfoddoli yn un o'n digwyddiadau, hyfforddi i asesu risg y cyhoedd yn ein Sioeau Teithiol neu hyd yn oed ymgyrchu gyda ni yn rhan o Lleisiau Diabetes i wella gwasanaethau diabetes yng Nghymru. Mae'r swyddogion hefyd yn cefnogi ein Grwpiau Lleol ledled Cymru sy'n lleoedd y gall unrhyw un y mae diabetes wedi effeithio arno fynd am gefnogaeth, cyfeillgarwch a gwybodaeth.
Ewch i'r dudalenCyfleoedd Gwirfoddoli i ddarganfod yr hyn y gallwch ei wneud i gymryd rhan.
Ffyrdd eraill o gymryd rhan
- Mae codi arian yn rhan allweddol o'n gwaith. Mae'n ein galluogi i gefnogi pobl sy'n byw â diabetes yng Nghymru ac ariannu gwaith ymchwil i'r cyflwr.
- Os ydych yn 18-30 oed efallai yr hoffech ystyried ymuno â'nRhaglen Pobl Ifanc
- Rhannwch eich stori – Gallwch wneud hyn trwy anfon dolen atom i'ch fideo YouTube, eich blog am eich profiadau dyddiol a sut rydych yn rheoli eich diabetes (peidiwch ag anghofio anfon y ddolen atom er mwyn i ni allu ei chynnwys ar ein gwefan) neu e-bostiwch ni hyd yn oed â'r stori am eich Taith Diabetes. Gallai helpu rhywun sydd wedi cael diagnosis yn ddiweddar neu deulu'r unigolyn hwnnw i ddysgu o'ch profiad.