Yn yr adran hon cewch drosolwg o'r holl rolau gwirfoddoli sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae modd lawrlwytho rhagor o wybodaeth am bob rôl ar ochr dde'r sgrin hon,cysylltwch a nii gael y ffurfleni cais yma yn Gymraeg. Cewch hefyd ffurflen gais fer y gallwch ei hanfon atom iwales_volunteering@diabetes.org.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os byddai'n well gennych gael sgwrs â ni am beth y gallwch ei wneud, ffoniwch ni ar 029 2066 8276 neu e-bostiwch ni ar y cyfeiriad uchod. Rydym bob tro'n hapus i glywed gennych.
Gwirfoddolwr Digwyddiadau
Fel Gwirfoddolwr Digwyddiadau byddwch yn:
- Cefnogi Diabetes UK Cymru mewn digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, megis ein Sioeau Teithiol Byw yn Iach
- Cynrychioli'r elusen mewn digwyddiadau yn eich ardal leol
- Siarad ag aelodau'r cyhoedd am ddiabetes a'n gwaith
- Dosbarthu taflenni gwybodaeth mewn digwyddiadau
- Cyfeirio pobl i'w gwasanaethau diabetes lleol
- Dewis digwyddiadau yn ôl eich amserlen ac os ydych ar gael
Aseswr Risg
Fel Aseswr Risg byddwch yn:
- Cael hyfforddiant gan eich swyddfa leol
- Dangos ymwybyddiaeth o'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â diabetes Math 2
- Defnyddio'r sgôr risg diabetes i asesu aelodau'r cyhoedd
- Esbonio manteision ffordd o fyw iach ac actif
- Cyfeirio pobl i'r gwasanaethau priodol yn ôl yr angen
Lleisiau Diabetes
Fel Llais Diabetes, byddwch yn:
- Ymgyrchu dros wasanaethau diabetes gwell yng Nghymru
- Gweithredu ar faterion sy'n effeithio arnoch chi
- Cael cyngor ar ymgyrchu
- Cael deunydd darllen a argymhellir a thempledi
- Ymuno â rhwydwaith o bobl sy'n cydweithio
- Cynrychioli safbwyntiau cleifion ar lefel leol
- Cael diweddariadau rheolaidd ar ein gwaith ledled Cymru
Gwirfoddolwr y Cyfryngau
Fel Gwirfoddolwr y Cyfryngau byddwch yn:
- Fodlon siarad am eich profiadau o ddiabetes, boed eich bod â'r cyflwr neu'n adnabod rhywun sydd â'r cyflwr.
- Cymryd rhan mewn ystod o gyfweliadau â'r cyfryngau, gallai hyn gynnwys siarad â newyddiadurwyr o bapurau newydd, ar y teledu neu'r radio.
- Datblygu perthynas â'r cyfryngau lleol yn eich ardal i godi ymwybyddiaeth am ddiabetes yng Nghymru.
- Cael cais i roi sylwadau i'r cyfryngau i gefnogi ymgyrch Diabetes UK neu ddigwyddiad codi arian.
- Gweithio gyda'r Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu i ddod o hyd i gyfrwng addas i chi rannu'ch stori.
Siaradwr Gwirfoddol
Fel Siaradwr Gwirfoddol byddwch yn:
- Dod yn rhan o'n rhwydwaith o siaradwyr
- Codi ymwybyddiaeth o ddiabetes a gwaith Diabetes UK yn eich cymuned
- Cael hyfforddiant i siarad am ddiabetes a'r ffactorau risg
- Cyflwyno trafodaethau a chyflwyniadau mewn amryw ddigwyddiadau a lleoliadau gan gynnwys diwrnodau ymwybyddiaeth o iechyd, swyddfa cwmni neu grwpiau cymunedol lleol
Gwirfoddolwr Digwyddiadau i'r Teulu
Fel Gwirfoddolwr Digwyddiadau i'r Teulu byddwch yn:
- Mynd i Ddigwyddiad i'r Teulu Diabetes UK
- Cefnogi gweithgareddau i blant a phobl ifanc
- Creu amgylchedd cefnogol i blant a phobl ifanc ddysgu a rhannu profiadau o'u diabetes
- Sicrhau amgylchedd diogel, cyfeillgar a hwyl ar gyfer gweithgareddau
- Cael hyfforddiant ac ymgymryd â gwiriadau perthnasol
Swyddog Cefnogi a Datblygu Grwpiau Lleol
Fel Gwirfoddolwr Cefnogi Grwpiau, byddwch yn:
- Cefnogi gwaith eich Grŵp agosaf
- Cynorthwyo ag amserlen cyfarfodydd y Grŵp
- Gwneud gwaith hyrwyddo ar ran y Grŵp
- Cynorthwyo â gwefannau'r Grŵp, lle bo angen
- Recriwtio aelodau newydd i'r Grŵp
- Ymchwilio i ardaloedd lleol a gweithio gyda'ch swyddfa leol