Savefor later Page saved! You can go back to this later in your Diabetes and Me Close

Cwrdd â'r tîm

rsz_dai_williams.png

 

imgarrow_blue_dark.png

 

Dai Williams – Cyfarwyddwr

Ces i fy ngeni a'm magu ym Merthyr Tudful a hyfforddais yn wreiddiol fel biocemegydd. Gweithiais wedyn am sawl blwyddyn gyda'r BBC yn Llundain a Chaerdydd, gan gynnwys gwaith ym meysydd addysg a hyrwyddo iechyd. Rydw i bellach yn arwain gwaith Diabetes UK yng Nghymru. Mae fy ngwraig a fy mab â diabetes.

rsz_mary_nicholls.jpg

 

imgarrow_blue_dark.png

 

Mary Nicholls – Rheolwr y Swyddfa

Fel arfer fi yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau ffôn ac ymwelwyr â'r swyddfa. Rydw i hefyd yn ymdrin â chyllid ein swyddfa ac oherwydd fy mod i'n siarad Cymraeg iaith gyntaf rydw i'n aml yn helpu i brawf ddarllen a chyfieithu ein cynnyrch Cymraeg. Ymunais â Diabetes UK Cymru yn wreiddiol oherwydd roedd gen i ffrindiau â diabetes ac roeddwn i'n gwybod am yr heriau a'r problemau roedden nhw'n eu hwynebu.

rsz_sara_moran.jpg

 

imgarrow_blue_dark.png

 

Sara Moran – Swyddog Gwirfoddolwyr

Fy rôl i yw cefnogi gwirfoddolwyr ledled Cymru a rheoli ein rhwydwaith o ymgyrchwyr,Lleisiau Diabetes. Rydw i'n rhoi cyngor ar sut i ddylanwadu'n effeithiol ar y GIG a chynrychiolwyr gwleidyddol i wella gwasanaethau diabetes yn eu hardal.

Rydw i'n gweithio gyda'n grwpiau lleol ledled Cymru sy'n cefnogi pobl sy'n byw â diabetes yn eu cymunedau. Mae grwpiau'n cymryd rhan mewn digwyddiadau amrywiol i godi arian, ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth. Rydw i hefyd yn gweithio gyda chymunedau lleiafrifol ledled Cymru i sicrhau y rhoddir yr wybodaeth gywir mewn ieithoedd gwahanol ac yn mynd i ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o beryglon diabetes.

rsz_amie_phillips.png

 

imgarrow_blue_dark.png

 

Amie Phillips – Swyddog Gwirfoddolwyr

Rydw i'n gweithio gyda'n Grwpiau Teulu i gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n byw â diabetes Math 1. Rydw i'n trefnu digwyddiadau i'r teulu yng Nghymru, sy'n ffordd wych o alluogi teuluoedd i gwrdd â'i gilydd, dysgu rhagor am y cyflwr a rhannu eu profiadau.

Rydw i'n helpu i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes Math 2 mewn cymunedau lleol ledled Cymru trwy gefnogi tîm o wirfoddolwyr mewn Sioeau Teithiol Diabetes UK, digwyddiadau ymwybyddiaeth o iechyd a diwrnodau gwybodaeth. Rydw i hefyd yn gyfrifol am drefnu'r Gynhadledd Gwirfoddolwyr flynyddol a'r Gwobrau Ysbrydoli, sy'n cydnabod ac yn gwobrwyo gwaith anhygoel ein gwirfoddolwyr.

rsz_ffion_senedd.jpg

 

imgarrow_blue_dark.png

 

Ffion Lewis – Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu

Ffion ydw i a fy rôl yw cyfathrebu'r holl waith sy'n digwydd yn Diabetes UK Cymru a chodi ymwybyddiaeth o ddiabetes yng Nghymru.

Rydw i'n gwneud hyn mewn sawl ffordd wahanol, gan gynnwys siarad â phobl ar ein tudalennauFacebookTwitter, defnyddio ein gwefan a siarad â'r cyfryngau lleol a chenedlaethol. Un o'r prif negeseuon rydym am ei hyrwyddo yw bod diabetes yn gyflwr difrifol ond gyda'r gefnogaeth gywir a gwasanaethau lleol gall pobl fyw bywydau hir ac actif. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu eich stori â ni ac â phobl eraill sy'n byw â diabetes, cysylltwch, byddwn i wrth fy modd yn clywed gennych.

rsz_jason_harding.png

 

imgarrow_blue_dark.png

 

Jason Harding – Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus

Rydw i wedi gweithio i Diabetes UK Cymru er 2009. Roedd gen i brofiad yn flaenorol o ymgyrchoedd a gwaith polisi gydag elusennau iechyd a phlant eraill.

Fy ngwaith yn Diabetes UK Cymru yw sicrhau bod gwleidyddion, gweithwyr iechyd proffesiynol a phenderfynwyr allweddol yng Nghymru yn gwbl glir am beth mae angen iddyn nhw ei wneud i sicrhau bod pobl â diabetes, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn cael y gefnogaeth angenrheidiol a haeddiannol. I ddarganfod rhagor am ein gwaith ymgyrchu, ewch i'n hadranYmgyrchoedd.

Joe%20Cuff%202%20(1)edited.png

 

imgarrow_blue_dark.png

 

Joseph Cuff – Codwr Arian Cenedlaethol i Gymru

Joe ydw i ac rydw i'n gweithio gyda'n cefnogwyr gwych sy'n ein helpu i godi arian allweddol i gefnogi pobl sy'n byw â diabetes yng Nghymru.

Mae gennym lawer o ffyrdd cyffrous o gymryd rhan. Mae rhywbeth i bawb yn wirioneddol, o nofio ar draws llyn i gerdded o amgylch parc gyda'ch teulu a'ch ffrindiau (a'ch ci), rhedeg marathon neu drefnu eich digwyddiad eich hun hyd yn oed. Ni waeth beth rydych eisiau ei wneud byddwn i wrth fy modd yn clywed gennych, felly cysylltwch. 

rsz_sam_coles.png

 

imgarrow_blue_dark.png

 

Samantha Coles – Rheolwr Cyfrifon Rhanbarthol – Tesco

Yn fy rôl rydw i'n ymwneud â Chymru, Swydd Amwythig, Swydd Gaerloyw a Henffordd gan ymdrin â'r holl faterion sy'n ymwneud â Tesco. Mae hyn yn cynnwys ymweld â siopau, canolfannau dosbarthu a swyddfeydd er mwyn cwrdd â chydweithwyr o Tesco, meithrin perthnasoedd ar gyfer ein Partneriaeth Elusennau Genedlaetholy mae targed ganddi i godi £18m.

Rydw i'n mynd i ddigwyddiadau Tesco a Diabetes UK er mwyn sicrhau bod Tesco yng Nghymru ac ardaloedd ar y ffin yn codi ymwybyddiaeth a chymaint o arian â phosibl i Diabetes UK. 

rsz_chris_headland.png

 

imgarrow_blue_dark.png

 

Chris Headland – Cynghorydd Gofal Cenedlaethol

Chris ydw i ac rydw i'n gweithio i gefnogi pobl sy'n byw â diabetes a'u teuluoedd ledled Cymru. Rydw i wedi fy lleoli yn ein swyddfa Gogledd Cymru ym Mhrestatyn.

Mae gen i brofiad personol a phroffesiynol o ddiabetes oherwydd ces i ddiagnosis o ddiabetes Math 1 pan oeddwn yn blentyn ac rydw i wedi gweithio fel Nyrs Arbenigol Diabetes yn y sector masnachol. Rydw i'n gwbl ymwybodol o'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu wrth dyfu i fyny a byw â'r cyflwr. Rydw i hefyd yn gyfrifol am ein Rhaglen Pobl Ifanc.

rsz_jane_clark.png

 

imgarrow_blue_dark.png

 

Jane Clark – Gweinyddwr Prosiectau Gofal

Jane ydw i ac rydw i wedi fy lleoli gyda Chris yn ein swyddfa yng Ngogledd Cymru a fy mhrif rôl yw cefnogi Cynghorydd Clinigol Cenedlaethol Cymru.

Mae hyn yn cynnwys bod yn bwynt cyswllt ar gyfer y gymuned gofal iechyd leol yng Ngogledd Cymru, gweinyddiaeth swyddfa gyffredinol, codi ymwybyddiaeth o ddiabetes yn y gymuned leol a helpu yn ein diwrnodau poblogaidd i'r teulu.

Back to Top
Brand Icons/Telephonecheck - FontAwesomeicons/tickicons/uk