Gyda chymorth ein cefnogwyr, gwirfoddolwyr a'n rhwydwaith o Leisiau Diabetes ledled Cymru, mae Diabetes UK Cymru yn gweithio i wella'r gefnogaeth a'r cymorth a roddir i bawb â diabetes yng Nghymru. Dyma rai o'r pethau rydym wedi'u cyflawni gyda'n gilydd.
Cefnogaeth i'ch helpu i ddeall eich diabetes
Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus, bydd pawb sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes Math 1 neu Fath 2 yn cael cynnig Addysg Ddiabetes Strwythuredig gan eu tîm gofal iechyd lleol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael addysg ddiabetes, siaradwch â'ch meddyg neu nyrs i ddarganfod rhagor.
Arweinyddiaeth diabetes yng Nghymru
Yn dilyn cyfarfodydd ag Aelodau Cynulliad a'r Gweinidog Iechyd yn dadlau dros fanteision cael uwch feddyg yn arwain gwasanaethau diabetes i bawb yng Nghymru, cytunodd Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni i benodi Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes a fydd, rydym yn gobeithio, yn helpu i wella gwasanaethau diabetes i bawb yng Nghymru.
Diagnosis cynt a gwell o ddiabetes
Rydym wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i adnabod y 60,000 o bobl yng Nghymru yr amcangyfrifir bod ganddyn nhw ddiabetes ond dydyn nhw heb gael diagnosis. Yn y tair blynedd diwethaf gyda chymorth yr holl fferyllfeydd ledled Cymru, rydym wedi cynnal dros 30,000 o asesiadau risg o ddiabetes ac mae miloedd o bobl wedi'u hatgyfeirio at eu meddyg teulu am ragor o brofion.
Gwasanaethau diabetes gwell ledled Cymru
Yn dilyn cyfarfod â'r Gweinidog Iechyd ac Aelodau Cynulliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gwnaethom ddwyn perswâd ar Gynulliad Cymru i gynnal ymchwiliad i wasanaethau diabetes. Rhoddodd meddygon a nyrsys o bob rhan o Gymru dystiolaeth a chafodd nifer o argymhellion pwysig eu llunio i wella gwasanaethau diabetes ledled Cymru yn y dyfodol.
Grŵp Gweithredu ar gyfer Diabetes Cymru
Mae Diabetes UK Cymru wedi ymgyrchu ers tro am gydlyniad gwell o ran gwasanaethau diabetes ledled Cymru i sicrhau bod pawb â diabetes yn cael yr un lefel uchel o gymorth a chefnogaeth.
Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi sefydlu grŵp cenedlaethol newydd o nyrsys a meddygon diabetes arbenigol o'r enw Grŵp Gweithredu ar gyfer Diabetes Cymru i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Cydlynu'ch gofal yn well
Mae byw â diabetes yn golygu eich bod yn cael cymorth a chefnogaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol gwahanol, megis eich meddyg, nyrs ac ymgynghorydd. Mae'n bwysig iawn eu bod yn cydweithio fel tîm ar eich cyfer.
Yn dilyn cyfarfodydd â'r elusen, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i weithredu system TG newydd i reoli cleifion diabetes ledled Cymru er mwyn sicrhau bod y manylion diweddaraf am iechyd diabetes ar gael i holl aelodau eich tîm gofal iechyd yr un pryd.
Gofal gwell i blant â diabetes Math 1
Rydym wedi gweithio gyda rhai o'r meddygon pediatrig blaenaf ledled Cymru i ddwyn perswâd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth well i feddygon a nyrsys yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i sefydlu rhwydwaith pediatrig newydd sy'n golygu y gall y 14 o ganolfannau i blant â Diabetes Math 1 gwrdd, rhannu rhai o'r syniadau diweddaraf ym maes ymchwil i ddiabetes, a sicrhau bod pob gwasanaeth plant yng Nghymru yn cyflwyno gofal o'r un safon uchel.
Cydweithio â phobl ifanc â diabetes Math 1
Mae'r Rhaglen Pobl Ifanc yn fenter newydd a ddechreuwyd yng Nghymru ac oherwydd ei llwyddiant y mae bellach wedi ymestyn ar draws y DU. Mae'r elusen wedi gweithio'n agos gyda grŵp o bobl ifanc â Math 1 i godi ymwybyddiaeth a helpu i gytuno ar sut y gall yr elusen helpu plant a phobl ifanc yn well yn y dyfodol.
Helpu i wella gwasanaethau diabetes yn eich cymuned
Cafodd ein Cydlynydd Grŵp Lleol yn Abercynon, Ray Highton, ganlyniad pwysig trwy wneud cais Rhyddid Gwybodaeth. Cyhoeddwyd gwybodaeth am wasanaethau cefnogaeth emosiynol ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf. Mae'r ddogfen yn rhoi manylion am y gofal sydd ar gael i bobl sy'n byw â diabetes ac iselder yng Nghwm Taf a'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr.
Cysylltiad gwell rhwng grwpiau gwirfoddol a'r GIG
Trwy gysylltu â'i fferyllfa Boots leol, mae Grŵp Lleol Cwmbrân wedi trefnu i'w fanylion gael eu dosbarthu i gwsmeriaid ynghyd â'u meddyginiaeth a'u presgripsiynau diabetes. O ganlyniad i hyn, mae'r grŵp wedi cael rhagor o bobl yn mynd i'w gyfarfodydd ac mae staff y fferyllfa wedi bod i'r cyfarfodydd yn rheolaidd er mwyn cysylltu â'u cwsmeriaid.