Mae ein holl waith ymgyrchu'n dibynnu ar eich cefnogaeth chi. Pan fyddwn yn gweithio ochr yn ochr â phobl â diabetes yng Nghymru, gallwn newid pethau i fod yn well.
Dyma rai o'n hymgyrchoedd presennol a gwybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan.
Ymunwch â'n rhwydwaith o ymgyrchwyr – Lleisiau Diabetes
Mae ein Lleisiau Diabetes yn ein helpu i wneud gwahaniaeth trwy ymgyrchu a dylanwadu ar benderfynwyr a darparwyr gwasanaethau allweddol yng Nghymru i sicrhau bod pawb â diabetes yn cael y driniaeth a'r gwasanaethau gorau.
Mynd i gyfarfod Grŵp Trawsbleidiol
Dewch i gwrdd â ni, Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol ac Aelodau Cynulliad o bob rhan o Gymru i ddarparu adborth ymarferol ar eich gwasanaethau diabetes a'r materion sy'n effeithio arnoch chi.
Gofalu am eich traed – "Rhoi'ch Traed yn Gyntaf"
Mae sicrhau eich bod yn cael archwiliad traed blynyddol ac yn cael eich atgyfeirio'n gyflym at yr arbenigwr cywir os oes gennych broblem yn hynod o bwysig.
Darganfyddwch sut y gallwch ein helpu i sicrhau bod pawb yng Nghymru'n cael gwasanaeth o'r radd flaenaf.
Eich Archwiliadau Hanfodol – "15 o Hanfodion Gofal Iechyd"
Ydych chi wedi cael eich holl archwiliadau diabetes blynyddol? Sicrhewch eich bod yn cael yr holl archwiliadau angenrheidiol i gadw'n iach.
Helpwch ni i hyrwyddo'r ymgyrch i wneud gwelliannau mawr i eraill sy'n byw â diabetes yng Nghymru nad ydyn nhw'n cael eu harchwiliadau.
Ymgyrch Blant – "Cyrraedd y Nod"
Helpwch ni i wneud gwelliannau ymarferol i ofal diabetes i'r 1,400 o blant â diabetes Math 1 yng Nghymru. Rydym yn dymuno sicrhau bod pobl yn ymwybodol o symptomau diabetes Math 1 a bod plant â diabetes yn cael yr archwiliadau angenrheidiol a'r gefnogaeth gywir yn yr ysgol.
Dechrau eich ymgyrch eich hun
A oes mater yr ydych yn teimlo'n gryf amdano nad yw un o'n hymgyrchoedd presennol yn ei drafod? Gallwn roi'r holl gefnogaeth a chyngor angenrheidiol i chi ddechrau ar eich ymgyrch eich hun.