Hoffech chi gwrdd â'ch Aelod Cynulliad i drafod mater sy'n ymwneud â diabetes? Mae'r Grŵp Trawsbleidiol ar ddiabetes yn rhoi cyfle i chi wneud hynny.
Bob tri mis, cynhelir cyfarfod yn y Cynulliad Cenedlaethol lle daw pobl â diabetes, Aelodau Cynulliad a sefydliadau megis Diabetes UK at ei gilydd i drafod materion pwysig sy'n ymwneud â diabetes.
Jenny Rathbone, Aelod Cynulliad Caerdydd Canolog, yw cadeirydd y grŵp.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Grŵp Trawsbleidiol wedi archwilio faint o addysg strwythuredig am ddiabetes sydd ar gael yng Nghymru, y newidiadau sy'n digwydd yng Ngwasanaeth Sgrinio ar gyfer Retinopatheg Diabetig Cymru a sut i wella'r cofnodion iechyd a'r wybodaeth y mae byrddau iechyd Cymru'n eu defnyddio. Mae'n edrych ar hyn o bryd ar ddarpariaeth pympiau inswlin a gofal cleifion mewnol i bobl â diabetes.
Mae holl gyfarfodydd y grŵp yn agored i'r cyhoedd ac mae'r Grŵp Trawsbleidiol yn cynnal digwyddiad mawr unwaith y flwyddyn lle mae pobl o bob rhan o Gymru yn teithio i gwrdd â'u Haelodau Cynulliad.
Os hoffech ddod i gyfarfod, rhowch wybod i ni trwye-bostneu trwy ein ffonio ar 029 2066 8276