Savefor later Page saved! You can go back to this later in your Diabetes and Me Close

Lleisiau Diabetes

diabetes-voice-fiona-faure-558x264.jpg

Ydy diabetes wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych yn ei adnabod? Ydych chi eisiau dweud eich dweud a gwneud gwahaniaeth i wasanaethau a gofal diabetes? Helpwch ni i newid bywydau a dyfodol pobl trwy ymuno â Lleisiau Diabetes.

Rydym yn gweithio'n ddiwyd i sicrhau bod pawb sydd â diabetes, boed yn Fath 1 neu Fath 2, yn cael y driniaeth a'r gwasanaethau gorau posibl. Mae ein Lleisiau Diabetes yn ein helpu i ymgyrchu a dylanwadu ar newid.

Pam dod yn Llais Diabetes?

I wneud gwahaniaeth. Mae eich profiad o fyw â diabetes yn hanfodol i'n gwaith o wella gwasanaethau a gofal diabetes. Bydd eich cefnogaeth a'ch cyngor yn eich helpu i gael effaith wirioneddol. 

Beth y gallaf i ei wneud?

Gall cymryd rhan fod mor gyflym a syml ag arwyddo deiseb neu mor gyffrous â dechrau eich ymgyrch leol eich hun. Dyma rai enghreifftiau o'r hyn y gallwch ei wneud:

  • Cymryd rhan yn ein harolygon Golwg ar Ddiabetes
  • Ymgyrchu ar-lein
  • Ysgrifennu at eich Aelod Cynulliad
  • Ysgrifennu at bobl neu gyrff eraill sy'n gwneud penderfyniadau
  • Ysgrifennu i'r cyfryngau lleol/cenedlaethol
  • Mynd i gwrdd â'ch Aelod Cynulliad
  • Mynd i'n digwyddiadau
  • Codi ymwybyddiaeth yn eich ardal
  • Ymuno â phwyllgor lleol/cenedlaethol
  • Dechrau ar eich ymgyrch leol eich hun

Sut ydw i'n cofrestru?

Ychwanegwch eich llais trwy lenwi ein ffurflen ar-lein. Mae modd ymuno â Lleisiau Diabetes am ddim, ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella gwasanaethau diabetes yng Nghymru.

Y cam nesaf?

Cysylltwch â ni os oes mater sy'n eich pryderu a byddwn yn eich helpu i gynllunio'ch camau nesaf. Rydym yn anfon diweddariadau rheolaidd trwy e-bost â newyddion o bob rhan o Gymru. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am beth sydd ar y gweill ac yn esbonio sut y gallwch gymryd rhan. 

Back to Top
Brand Icons/Telephonecheck - FontAwesomeicons/tickicons/uk