Mae 1,400 o blant â Diabetes Math 1 yng Nghymru. Rydym yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes Math 1 er mwyn sicrhau y caiff plant a phobl ifanc â'r cyflwr ddiagnosis cyn gynted â phosibl. Rydym hefyd yn gweithio'n ddiwyd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael yr archwiliadau blynyddol angenrheidiol i sicrhau y caiff eu diabetes ei reoli'n dda.
Sut y gallwch helpu:
Nid oes modd atal diabetes Math 1. Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau diabetes a'i adnabod yn gynnar yn hollbwysig er mwyn sicrhau nad yw plant ac oedolion sy'n ei ddatblygu yn dod yn ddifrifol sâl â Cetoasidosis Diabetig (DKA). Mae hwn yn gyflwr lle gall lefelau glwcos anarferol o uchel yn y gwaed arwain at goma neu farwolaeth hyd yn oed, a gall lefelau glwcos uchel yn y gwaed arwain at gamau cynnar difrod i organau os nad ydyn nhw'n cael eu trin yn gyflym a'u rheoli.
Mae data o'r Archwiliad Ddiabetes Pediatrig Cenedlaethol yn dangos y cafodd 25 y cant o blant a phobl ifanc â diabetes Math 1 yng Nghymru a Lloegr eu diagnosis trwy ddatblygu DKA a gorfod cael triniaeth frys.
Mae ein poster 4T yn codi ymwybyddiaeth o symptomau diabetes Math 1 ymhlith plant a phobl ifanc (Tŷ bach. Teimlo'n sychedig. Teimlo'n flinedig. Teneuach). Gorau po fwyaf o bobl sy'n ymwybodol o'r symptomau.
I ledaenu'r gair gallwch:
- Anfon e-bost atom iwales@diabetes.org.uki ofyn am dempled o lythyr y gallwch ei anfon i'ch papur lleol yn gofyn iddo am gyhoeddi ein poster 4T. (Mae fersiwn cydraniad uchel o'r poster ar gael yn y golofn dde)
- Rhannu ein poster 4T ar gyfryngau cymdeithasol (Defnyddiwch y fersiwn cydraniad isel o'r poster)
Mae ein canllaw 10/10 yn dweud wrthych y deg peth y dylech eu disgwyl o ran gofal diabetes eich plentyn.
Mae'n cynnwys gofal, archwiliadau a help y gall fod eu hangen ar eich plentyn i sicrhau bod ei driniaeth yn gywir a bod ei gyflwr wedi'i reoli'n dda.
I ledaenu'r gair gallwch:
- Lawrlwytho ein templed o lythyr (sydd ar gael yn y golofn lawrlwythiadau ar yr ochr dde) a'i anfon i'ch Bwrdd Iechyd Lleol gyda data'n dangos faint o blant sy'n cael eu harchwiliadau blynyddol ac yn gofyn beth maen nhw'n ei wneud i wella hyn.
Mae gennym becyn ysgolion sydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg i rieni ac ysgolion sy'n gofalu am blant â diabetes, sy'n rhoi arweiniad ar sut i gydweithio i sicrhau'r gofal gorau i'r plentyn.
Ewch â phecyn i'ch ysgol leol neu rhowch becyn i rywun rydych yn ei adnabod.