Savefor later Page saved! You can go back to this later in your Diabetes and Me Close

Ymgyrch Traed

 

10%20Steps%20Front%20Cover%20-%20Welsh%20sm.png

 

Gall diabetes arwain at gylchrediad gwaed gwael a llai o deimlad yn y traed a'r coesau. Mae pobl â diabetes yn fwy tebygol o fynd i'r ysbyty ag wlser ar y droed nag ag unrhyw gymhlethdod arall yn sgil diabetes. Amcangyfrifir bod tua 2,000 o bobl â diabetes yng Nghymru ag wlserau traed ar unrhyw adeg a chynhelir tua 330 o lawdriniaethau i dorri'r droed i ffwrdd bob blwyddyn.

Gellid osgoi 80 y cant o lawdriniaethau i dorri'r droed i ffwrdd oherwydd diabetes. Er mwyn lleihau'r nifer o bobl â diabetes sy'n cael llawdriniaeth i dorri'r droed i ffwrdd mae angen i dri pheth pwysig ddigwydd:

  • Dylai pobl â diabetes fod yn rhan fwy llawn o'u gofal eu hunain. Dylen nhw wybod sut i ofalu am eu traed, faint o risg sydd ganddyn nhw o ddatblygu cymhlethdodau, a pha ofal y dylen nhw ei gael gan y gwasanaeth iechyd.
  • Mae angen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn ymwybodol o'r risg o glefyd traed diabetig a sicrhau bod pawb sydd â diabetes yn cael eu harchwiliadau blynyddol.
  • Mae angen i Fyrddau Iechyd roi'r driniaeth gywir ar yr amser cywir yn y man cywir. 

Sut y gallwch helpu:

Os ydych chi am ddanfon llythyr Cymraeg ebostiwchwales@diabetes.org.ukneu ffoniwch 029 2066 8276.

  1. Lawrlwythwch ein templed o lythyr (ar gael i'w lawrlwytho yn y golofn dde) i'w anfon at eich Bwrdd Iechyd Lleol a/neu ysbyty yn gofyn a oes ganddyn nhw Dîm Amlddisgyblaethol i gynnal yr archwiliadau gofynnol pan fo rhywun sy'n byw â diabetes yn cael ei anfon i'r ysbyty. Mae'r archwiliadau hyn yn rhan hanfodol o gael eich derbyn i'r ysbyty a gall atal cymhlethdodau â'r traed a helpu i leihau cyfraddau llawdriniaethau i dorri'r droed i ffwrdd. Os ydych yn ansicr i ba Fwrdd Iechyd Lleol yr ydych yn perthyn, edrychwch ar y map isod.
  2. Ewch i'ch meddygfa deulu/ysbyty lleol i ofyn iddyn nhw am arddangos ein deunyddiau. Gallwn roi'r deunyddiau i chi neu eu hanfon yn syth i'ch meddygfa. Cofiwch edrych rai dyddiau wedyn er mwyn sicrhau eu bod wedi arddangos y deunyddiau.

Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru

Welsh%20LHB%20map.png

Back to Top
Brand Icons/Telephonecheck - FontAwesomeicons/tickicons/uk