Diabetes Math 1
Mae diabetes Math 1 yn datblygu pan fydd y celloedd sy'n gwneud inswlin yn y pancreas wedi'u dinistrio. Nid oes neb yn siwr pam mae hyn yn digwydd, ond mae'n bosibl bod y corff yn ymosod ar ei gelloedd ei hunan yn sgîl feirws neu ryw haint.Diabetes Math 2
Os ydych chi'n groenwyn a thros 40 oed, neu'n ddu, Asiaidd neu o leiafrif ethnig arall a thros 25 oed, ac os yw un neu ragor o'r pethau isod yn wir amdanoch chi, dylech chi ofyn i'ch meddyg am brawf diabetes:
Mae diabetes Math 2 ar rywun sy'n perthyn yn agos i chi (mam, tad, brawd neu chwaer).
- Rydych chi dros eich pwysau; neu'n ddynes ac yn fwy na 31.5 modfedd am eich canol; neu'n ddyn Asiaidd ac yn fwy na 35 modfedd am eich canol, neu'n ddyn croenwyn neu groenddu'n ac yn fwy na 37 modfedd am eich canol.
- Mae pwysau'ch gwaed yn uchel, neu rydych chi wedi cael trawiad ar y galon neu strôc.
- Dynes dros eich pwysau ydych chi ac efo polycystic ovary syndrome.
- Mae gennych chi impaired glucose tolerance neu impaired fasting glycaemia.
- Dynes sydd wedi cael gestational diabetes ydych chi.
- Mae problemau iechyd meddwl difrifol gennych chi.
Po fwya'r nifer o'r rhain sy'n wir amdanoch chi, mwya'n y byd y perygl y bydd diabetes arnoch chi.
Eich oedran
Rydych chi mewn perygl o diabetes os ydych chi dros 40 oed, neu os ydych chi dros 25 oed ac yn ddu, Asiaidd neu o leiafrif ethnig arall. Mae'r perygl hwn yn cynyddu wrth i chi heneiddio, felly po hynaf ydych chi, po fwya'r perygl.
Eich teulu
Os oes diabetes yn eich teulu, rydych chi mewn perygl. Po fwyaf agos rydych chi'n perthyn i rywun â diabetes, mwya'r perygl i chi. Felly, os oes diabetes ar eich mam neu'ch tad, yn hytrach na'ch ewythr neu'ch modryb, mae mwy o berygl i chi.
Eich tras ethnig
Mae pobl o dras Affricanaidd-Caribïaidd neu Dde Asia ym Mhrydain bum gwaith o leiaf yn fyw tebyg o gael diabetes na phobl groenwyn.
Eich pwysau
Nid pawb â diabetes sydd dros ei bwysau, ond mae 80% o bobl â diabetes Math 2 dros eu pwysau adeg deiagnosis. Po fwyaf tew a segur ydych chi, mwya'r perygl i chi. Os ydych chi ddim yn si?r a ydych chi'n rhy drwm, gofynnwch i'ch meddyg fesur eich BMI.
Maint eich canol
Merched – os ydych chi'n fwy na 31.5 modfedd (80cm) am eich canol, mae mwy o berygl i chi.Dynion – os ydych chi'n groenwyn neu'n groenddu ac yn fwy na 37 modfedd (94cm) am eich canol, mae mwy o berygl i chi gael diabetes; os dyn Asiaidd ydych chi, 35 modfedd (90cm) neu fwy yw'r ffigur i chi.
Ffactorau eraill
Os oes gennych chi broblemau llif y gwaed; os cawsoch chi drawiad ar y galon neu strôc; neu os yw pwysau'ch gwaed yn uchel, efallai fod mwy o bergyl i chi gael diabetes.
Weithiau mae merched beichiog yn datblygu ffurf dros dro ar diabetes – gestational diabetes. Gall hyn gynyddu'r perygl iddyn nhw gael diabetes wedyn. Mae'r un peth yn wir am roi geni i faban mawr.
Mae merched â polycystic ovary syndrome sydd dros eu pwysau mewn perygl hefyd.
Oes oes gennych chi impaired fasting glycaemia (IFG) neu impaired glucose tolerance (IGT) mae mwy o glwcos (siwgr) yn eich gwaed nag sy'n normal ond does dim diabetes arnoch chi. Dylech chi fwyta'n iach, colli pwysau os oes angen, a gwneud digon o ymarfer corff, er mwyn atal datblygu diabetes. Gwnewch yn si?r hefyd y cewch eich profi am diabetes yn gyson.
Mae pethau eraill, fel cynnydd triglycerides (math o fraster yn y gwaed) a phroblemau iechyd meddwl difrifol hefyd yn gallu cynyddu'r perygl i chi gael diabetes.