Savefor later Page saved! You can go back to this later in your Diabetes and Me Close

Beth yw diabetes?

Cyflwr cyffredin yw diabetes mellitus lle mae gormod o glwcos (siwgr) yn y gwaed, gan na all y corff ei ddefnyddio’n iawn. Mae glwcos yn dod o’r bwydydd ’rydym ni’n ei fwyta, naill ai o fwydydd melys neu drwy dreulio bwydydd startslyd fel bara a thatws. Gall yr iau/afu hefyd wneud glwcos.

consultation2.jpg

Mae angen inswlin er mwyn byw. Hormon yw e sy’n cael ei wneud gan y pancreas, ac sy’n helpu glwcos i fynd i gelloedd y corff, lle mae’n cael ei ddefnyddio i wneud egni.

 

 

Mathau o diabetes

Mae dau brif fath o diabetes, sef:

  • Diabetes Math 1
  • Diabetes Math 2

Math 1

Mae diabetes Math 1 yn digwydd pan na all y corff wneud dim inswlin o gwbl. Mae’n ymddangos fel arfer mewn pobl dan 40 oed.  O’r ddau brif fath o diabetes, Math 1 yw’r lleiaf cyffredin, gan effeithio ar 5 – 15% o bobl â diabetes.

Math 2

Mae diabetes Math 2 i’w gael pan mae’r corff yn dal i allu gwneud ychydig inswlin, ond dim digon, neu pan nad yw’r inswlin mae’r corff yn ei wneud yn gweithio’n iawn (insulin resistance yw’r enw Saesneg ar hwn). Fel arfer, mae hyn yn deillio o dewdra’r corff. Mae’r math yma o diabetes fel arfer yn ymddangos mewn pobl dros 40 oed, ond mewn pobl o dras Asiaidd neu Affricanaidd-Caribïaidd mae e i’w gael yn aml mor gynnar â 25 oed. Yn ddiweddar hefyd, mae’r cyflwr wedi’i ganfod yn amlach mewn plant, a rhai o’r rheini mor ifanc â 7 oed. O’r ddau brif fath o diabetes, Math 2 yw’r mwyaf cyffredin, gan effeithio ar 85 – 95% o bobl â diabetes.

Ar hyn o bryd, mae tua 2.5 miiwn o bobl Prydain gyda diabetes, a hyd at 750,000 o bobl eraill sy’n byw gyda’r cyflwr ond heb ei wybod.

Back to Top
Brand Icons/Telephonecheck - FontAwesomeicons/tickicons/uk