Er nad yw'n bosibl cael gwared ar diabetes yn llwyr, mae modd ei drin yn effeithiol iawn.
Maeyn cael ei drin trwy bigiadau inswlin a bwyta'n iach. Syniad da iawn hefyd yw ymarfer corff rheolaidd. Nid yw'n bosibl llyncu inswlin gan ei fod yn cael ei ddinistrio yn y stumog. Mae pobl â'r math yma o diabetes fel arfer yn chwistrellu inswlin i'w cyrff ddwywaith neu bedair gwaith y dydd. Os oes diabetes Math 1 arnoch vhi, mae rhaid gymryd pigiadau inswlin er mwyn eich cadw'n fyw ac mae'n rhaid ei wneud bob dydd.
Mae angen i bobl â diabetes Math 2 fwyta'n iach a gwneud ymarfer corff rheolaidd. Os ydych chi'n rhy drwm, bydd yn haws rheoli'ch diabetes os byddwch chi'n lleihau'ch pwysau a'u cadw'm llai wedyn.
Mae yn cael ei drin trwy newid eich ffordd o fyw trwy fwyta'n well, colli pwysau a gwneud mwy o ymarfer corff. Efallai y bydd angen tabledi ac/neu inswlin to achieve normal blood glucose levels. Mae nifer o wahanol fathau o dabledi ar gyfer pobl â diabetes Math 2. Mae rhai mathau yn eich helpu i wneud mwy o inswlin. Mae rhai eraill yn helpu'ch corff i wneud gwell defnydd o'r inswlin sydd gennych. Mae math arall o dabled yn arafu fel y mae'r corff yn tynnu glwcos o'ch perfeddion.Bydd eich meddyg yn penderfynu pa fath o dabledi sydd orau i chi, ac efallai y bydd yn rhoi presgripsiwn i chi ar gyfer mwy nag un math. Cyflwr sy'n cynyddu dros amser yw diabetes Math 2. Os nad oedd modd rheoli eich diabetes neu newid eich ffordd o fyw a chymryd eich tabledi, efallai y bydd eich meddyg am i chi gymryd inswlin.
Sicrhau bod glwcos, pwysedd a cholesterol y gwaed mor normal â phosibl yw'r nod wrth drin y ddau fath o diabetes. Ar y cyd â byw'n iach, bydd hyn yn eich helpu i deimlo'n well a helpu atal niwed i'ch llygaid, arennau, nerfau, calon, a chylchrediad eich gwaed.