Yma mae casgliad o Storïau Digidol gan bobl â diabetes yng Nghymru. Maen nhw'n sôn am eu profiadau a'u taith o'u diagnosis i heddiw, beth maen nhw wedi'i ddysgu, yr anawsterau maen nhw wedi'u hwynebu a'u goresgyn a'r cerrig milltir ar y daith.
Mae'n hawdd rhannu'ch stori a byddem wrth ein boddau yn ei chlywed. Ewch i www.youtube.com cliciwch ar 'upload' a 'webcam capture' a recordiwch eich stori (does dim rhaid iddi fod yn ffansi). Peidiwch ag anghofio anfon y ddolen i'ch fideo atom (byddwch chi'n ei chael pan fyddwch wedi gorffen recordio) i wales@diabetes.org.uk.
Os nad ydych yn dymuno defnyddio YouTube, ysgrifennwch eich stori mewn e-bost a'i hanfon atom i'r un cyfeiriad a byddwn yn ei hychwanegu at yr adran 'Eich Taith Diabetes' ar y wefan.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
Llwythwch eich stori i YouTube ac anfonwch eich dolen i wales@diabetes.org.uk.