Savefor later Page saved! You can go back to this later in your Diabetes and Me Close

15 o Hanfodion Gofal Iechyd

Y 15 o hanfodion gofal iechyd yw'r archwiliadau iechyd blynyddol sylfaenol y dylai pawb â diabetes eu cael. Gan amlaf, mae pobl â diabetes yn gyfrifol am reoli'u diabetes eu hunain. Mae cael yr archwiliadau a'r cyfle i drafod y canlyniadau â'ch meddyg neu nyrs yn un o'r cyfarfodydd pwysicaf y mae pobl â diabetes yn eu cael â'u tîm gofal iechyd.

Yn anffodus gwelir amrywio mawr rhwng gwahanol rannau o Gymru o ran yr archwiliadau blynyddol y mae pobl â diabetes yn eu cael, ond gyda'ch cymorth gallwn wneud gwahaniaeth. 

 

15hce%20welsh%20fanned.jpg

 

Sut y gallwch helpu:

Os ydych chi am ddanfon llythyr Cymraeg ebostiwchwales@diabetes.org.ukneu ffoniwch 029 2066 8276.

  1. Lawrlwythwch ac anfonwch ein templed o lythyr (sydd ar gael yn y golofn dde) at eich Aelod Cynulliad, sy'n cynnwys graff sy'n amlygu meddygfeydd teulu â pherfformiad isel yn eich Bwrdd Iechyd Lleol (mae map o'r Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru ar gael isod). Mae'r llythyr yn gofyn i'ch AC ysgrifennu i'r Bwrdd Iechyd Lleol gan ofyn beth maen nhw'n bwriadu ei wneud i wella perfformiad isel. Y cyfan y mae'n rhaid i chi ei wneud yw rhoi eich enw a'r dyddiad.
  2. Ewch i gyfarfod eich Grŵp Cyfeirio Cleifion lleol a/neu eich Grŵp Cynllunio a Chyflawni ar gyfer Diabetes. Mae'r ddau grŵp yn caniatáu i gleifion adrodd ar bryderon ac arfer gorau yn syth i'r GIG, sy'n annog cyfraniad gan gleifion yn rhan o wasanaethau diabetes. Am fanylion am gyfarfodydd lleol, e-bostiwchwales@diabetes.org.uk

Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru

Welsh%20LHB%20map.png

Back to Top
Brand Icons/Telephonecheck - FontAwesomeicons/tickicons/uk