Ydy diabetes wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych yn ei adnabod? Ydych chi eisiau dweud eich dweud a gwneud gwahaniaeth i wasanaethau a gofal diabetes? Helpwch ni i newid bywydau a dyfodol pobl trwy ymuno â Lleisiau Diabetes.
Rydym yn gweithio'n ddiwyd i sicrhau bod pawb sydd â diabetes, boed yn Fath 1 neu Fath 2, yn cael y driniaeth a'r gwasanaethau gorau posibl. Mae ein Lleisiau Diabetes yn ein helpu i ymgyrchu a dylanwadu ar newid.
Pam dod yn Llais Diabetes?
I wneud gwahaniaeth. Mae eich profiad o fyw â diabetes yn hanfodol i'n gwaith o wella gwasanaethau a gofal diabetes. Bydd eich cefnogaeth a'ch cyngor yn eich helpu i gael effaith wirioneddol.
Beth y gallaf i ei wneud?
Gall cymryd rhan fod mor gyflym a syml ag arwyddo deiseb neu mor gyffrous â dechrau eich ymgyrch leol eich hun. Dyma rai enghreifftiau o'r hyn y gallwch ei wneud:
- Cymryd rhan yn ein harolygon Golwg ar Ddiabetes
- Ymgyrchu ar-lein
- Ysgrifennu at eich Aelod Cynulliad
- Ysgrifennu at bobl neu gyrff eraill sy'n gwneud penderfyniadau
- Ysgrifennu i'r cyfryngau lleol/cenedlaethol
- Mynd i gwrdd â'ch Aelod Cynulliad
- Mynd i'n digwyddiadau
- Codi ymwybyddiaeth yn eich ardal
- Ymuno â phwyllgor lleol/cenedlaethol
- Dechrau ar eich ymgyrch leol eich hun
Sut ydw i'n cofrestru?
Ychwanegwch eich llais trwy lenwi ein ffurflen ar-lein. Mae modd ymuno â Lleisiau Diabetes am ddim, ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella gwasanaethau diabetes yng Nghymru.
Y cam nesaf?
Cysylltwch â ni os oes mater sy'n eich pryderu a byddwn yn eich helpu i gynllunio'ch camau nesaf. Rydym yn anfon diweddariadau rheolaidd trwy e-bost â newyddion o bob rhan o Gymru. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am beth sydd ar y gweill ac yn esbonio sut y gallwch gymryd rhan.