Ymholiadau'r Wasg
Os ydych yn newyddiadurwr neu'n ymchwilydd ag ymholiad, cysylltwch â'n Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu, Ffion Haf Lewis trwy e-bostio ffion.lewis@diabetes.org.uk neu drwy ffonio 029 2035 3976.
Gallwn hefyd ddarparu llefarydd ar ran y sefydliad neu astudiaethau achos a all siarad yn hyderus â'r cyhoedd am ystod o faterion sy'n gysylltiedig â diabetes yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Diabetes yng Nghymru: Ffeithiau Allweddol
Faint o bobl yng Nghymru sydd â diabetes neu mewn perygl o'i ddatblygu?
- Mae 173,000 o bobl yn byw â diabetes yng Nghymru, ac mae gan 60,000 arall ddiabetes heb fod yn ymwybodol ohono neu heb gael cadarnhad diagnosis.
- Amcangyfrifir bod risg uchel i 350,000 arall o ddatblygu diabetes.
- Rydym yn amcangyfrif y bydd 288,000 o bobl â diabetes yng Nghymru erbyn 2025.
- Mae tua 10 y cant o bobl â diabetes Math 1 ac mae tua 90 y cant o bobl â diabetes Math 2
Pam mae diabetes yn fater mor ddifrifol?
- Diabetes yw'r achos mwyaf o ddallineb ymhlith pobl o oedran gweithio, methiant yr arennau, strôc, llawdriniaethau i dorri'r droed i ffwrdd a chlefyd cardiofasgwlaidd.
- Rydym yn amcangyfrif bod 3,750 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd diabetes, sydd 1,200 yn fwy o farwolaethau na'r disgwyl.
- Bydd risg uwch i un o bob pump o blant â diabetes Math 1 ddatblygu cetasidosis diabetig, sy'n gyflwr sy'n peryglu bywyd sy'n galw am ofal meddygol brys.
Beth yw effaith diabetes ar y GIG yng Nghymru?
- Amcangyfrifir bod GIG Cymru yn gwario £500 miliwn y flwyddyn ar ddiabetes; sef 10 y cant o'i gyllideb flynyddol.
- Mae 15 i 20 y cant o gleifion ysbyty mewnol yn bobl â diabetes.
- Maen nhw'n debygol o aros yn yr ysbyty dri diwrnod yn hirach ar gyfartaledd na phobl heb ddiabetes.
Adrodd ar ddiabetes: Canllaw i Newyddiadurwyr
Rydym wedi cynhyrchu'r canllawiau canlynol i gynorthwyo newyddiadurwyr wrth adrodd yn gyfrifol ar ddiabetes a materion sy'n gysylltiedig â'r cyflwr.
Lawrlwythwch Diabetes in the News: A Guide for Journalists on Reporting on Diabetes (PDF, 549KB)