Savefor later Page saved! You can go back to this later in your Diabetes and Me Close

Gwirfoddolwyr y Cyfryngau

Media%20Volunteer.jpg

Os ydych chi neu aelod o'r teulu neu ffrind â diabetes byddwch yn gwybod pa mor bwysig yw dweud wrth bobl am y cyflwr.

Trwy siarad am ddiabetes yn y cyfryngau gallwch helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr yng Nghymru a helpu i wella gofal i bobl â diabetes.

Rydym eisoes yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes ar y teledu, radio, mewn papurau newydd, cylchgronau ac ar gyfryngau cymdeithasol, ond rydym am sicrhau bod pobl yn eich clywed.

Os ydych yn rhywun sy'n dymuno dweud wrth eraill sut beth yw byw â diabetes neu os hoffech hyrwyddo eich digwyddiad i godi arian i Diabetes UK, gallwn helpu.

Y cyfan y mae'n rhaid i chi ei wneud yw cysylltu â Ffion, ein Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu am ragor o wybodaeth trwy e-bostio ffion.lewis@diabetes.org.ukneu ffonio 029 2066 8276 a gallwn drafod sut y gallwch ddod yn wirfoddolwr y cyfryngau ar ran Diabetes UK Cymru.

Back to Top
Brand Icons/Telephonecheck - FontAwesomeicons/tickicons/uk