Savefor later Page saved! You can go back to this later in your Diabetes and Me Close

Dechrau eich ymgyrch eich hun

map.jpg

Os oes elfen o wasanaethau diabetes yr ydych yn teimlo'n gryf amdani, beth am ddechrau eich ymgyrch leol eich hun? Gallwn roi cyngor i chi ar ddeunyddiau darllen a argymhellir, sut i ddylanwadu ar y GIG, pwy y mae angen i chi gysylltu â nhw a sut y gallwch wneud gwahaniaeth.

Sut i ddechrau ar eich ymgyrch eich hun

1. Ystyriwch elfen o wasanaethau diabetes rydych yn teimlo bod modd ei gwella, er enghraifft:

  • Trafferthion wrth gael pwmp inswlin
  • Problemau cael meddyginiaeth ar amser
  • Anodd dweud eich dweud o ran eich gofal iechyd
  • Addysg well i bobl â diabetes
  • Diffyg nyrsys diabetes yn eich ardal
  • Peidio â chael y gofal rydych yn ei haeddu

2.Edrychwch ar beth mae gwirfoddolwyr eraill wedi'i gyflawni trwy ymgyrchu

3.Cysylltwch â ni a byddwn yn rhoi'r holl gymorth ac arweiniad y mae arnoch ei angen

4. Dechreuwch!

Neu helpwch ag un o'n hymgyrchoedd presennol, dyma sut – 

  • Ymunwch â phwyllgor lleol, er enghraifft eich Grŵp Cyfeirio Cleifion
  • Ymgyrchwch ar-lein ar Facebook, Twitter neu flog
  • Siaradwch â Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol ynghylch sut y gallant helpu
  • Dewch i hyfforddiant Lleisiau Diabetes gyda ni
  • Ysgrifennwch at eich Aelod Cynulliad
  • Ysgrifennwch at gorff arall sy'n gwneud penderfyniadau megis eich Bwrdd Iechyd Lleol neu'ch ysbyty
  • Ewch i ddigwyddiad
  • Ewch i gwrdd â'ch Aelod Cynulliad

Golwg ar Ddiabetes

 

Wales%20Map.jpg

 

Gallwch hefyd gymryd rhan mewnGolwg ar Ddiabetes, sef ein harolwg ar-lein. Rydym yn cynnal nifer o arolygon drwy gydol y flwyddyn ar amryw dopigau ac os ydych wedi cofrestru ar Lleisiau Diabetes, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fo arolwg newydd wedi cychwyn.

Sicrhewch eich bod yn cadw mewn cysylltiad ac yn dweud wrthym am beth sy'n digwydd yn eich ardal leol. Rydym yn cael mwy o effaith wrth gydweithio a gallwn roi gwybod i chi am ymgyrchwyr eraill yn eich ardal. Rydym yma i'ch helpu!

Back to Top
Brand Icons/Telephonecheck - FontAwesomeicons/tickicons/uk